bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 9
Romans 9
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid celwyddu yr wyf, fy nghydwybod yn cyd-dystiolaethu â mi yn yr Yspryd Glân,
2
mai tristyd mawr sydd genyf, a gofid dibaid yn fy nghalon,
3
canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist tros fy mrodyr, fy nghyd-genedl yn ol y cnawd, y rhai ydynt Israeliaid;
4
eiddo y rhai yw’r mabwysiad a’r gogoniant, a’r cyfammodau a rhoddiad y Gyfraith,
5
a’r gwasanaeth a’r addewidion; eiddo y rhai yw ’r tadau, ac o’r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr Hwn sydd uwchlaw pob peth, Duw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6
Ond nid oes bosibl y syrth gair Duw,
7
canys nid pawb y sydd o Israel ydynt Israel, ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, oll yn blant, eithr “Yn Itsaac y gelwir i ti had,”
8
hyny yw, nid plant y cnawd, y rhai hyny sy blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.
9
Canys gair o addewid yw’ r gair hwn,
10
“Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd i Sara fab.” Ac nid hyny yn unig, eithr Rebeca hefyd wedi iddi feichiogi o un, sef Itsaac ein tad;
11
(canys a hwy heb etto eu geni, nac wedi gwneuthur dim da neu ddrwg, fel y byddai i arfaeth Duw yn ol etholedigaeth sefyll, nid o weithredoedd eithr o’r Hwn sy’n galw,)
12
dywedwyd wrthi, “Yr hynaf a wasanaetha’r ieuengaf:”
13
fel yr ysgrifenwyd, “Iacob a gerais, ond Esau a gaseais.”
14
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, A oes anghyfiawnder gyda Duw?
15
Na atto Duw; canys wrth Mosheh y dywaid Efe, “Trugarhaf wrth yr hwn y trugarhaf, a thosturiaf wrth yr hwn y tosturiaf.”
16
Gan hyny, ynte, nid yw o’r hwn sy’n ewyllysio, nac o’r hwn sy’n rhedeg, eithr o’r Hwn sy’n trugarhau, sef Duw.
17
Canys dywaid yr Ysgrythyr wrth Pharaoh, “Er hyn ei hun y cedwais di i fynu, fel y dangoswn Fy ngallu ynot, ac fel y datgenid Fy enw yn yr holl ddaear.”
18
Gan hyny, ynte, wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarha Efe, ac yr hwn yr ewyllysia y mae Efe yn ei galedu.
19
Dywedi wrthyf, gan hyny, Paham y mae Efe etto yn beio?
20
Canys yn erbyn ei Ewyllys Ef pwy sy’n sefyll? O ddyn, ynte, tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywaid y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fi fel hyn?
21
Onid oes awdurdod gan y crochenydd ar y priddgist, o’r un telpyn pridd i wneuthur un llestr i barch, ac arall i ammharch?
22
Ac os Duw, yn ewyllysio dangos Ei ddigofaint, a pheri adnabod Ei allu, a oddefodd, â llawer o hir-ymaros, lestri digofaint wedi eu cymhwyso i ddistrywiad,
23
ac fel y parai adnabod golud Ei ogoniant ar lestri trugaredd y rhai a rag-barottodd Efe i ogoniant,
24
sef nyni, y rhai a alwodd Efe hefyd nid yn unig o’r Iwddewon, eithr o’r cenhedloedd hefyd,
25
fel yn Hoshea hefyd y dywaid, “Galwaf yr hon nad yw Fy mhobl yn bobl i Mi; A’r hon nad yw anwyl, yn anwyl;
26
A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid Fy mhobl ydych chwi, Yna y gelwir hwy Meibion y Duw byw.”
27
Eshaiah hefyd sy’n llefain am Israel, “Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, Y gweddill a achubir;
28
Canys Ei air, gan ei orphen a’i gwttogi ef, A wnaiff Iehofah ar y ddaear.”
29
Ac fel y dywedodd Eshaiah yn y blaen. “Oni buasai i Iehofah Tsabaoth adael i ni had, Fel Sodom y buasem, ac i Gommorah y buasem gyffelyb.”
30
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Y cenhedloedd, y rhai ni ddilynent gyfiawnder, a ddaethant hyd i gyfiawnder, ond y cyfiawnder y sydd o ffydd:
31
ond Israel, yn dilyn cyfraith cyfiawnder, at y gyfraith honno ni chyrhaeddodd.
32
Paham? O herwydd nad o ffydd, eithr fel o weithredoedd y dilynent; tarawsant wrth y maen-tarawo, fel yr ysgrifenwyd, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion faen-tarawo a charreg tramgwydd; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16