bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 12
Romans 12
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Attolygaf i chwi, gan hyny, frodyr, trwy drugareddau Duw, roddi eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, boddhaol, i Dduw, yr hyn yw eich gwasanaeth rhesymmol.
2
Ac na chyd-ymffurfiwch â’r byd hwn, eithr traws-ffurfier chwi trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus, a boddhaol, a pherffaith ewyllys Duw.
3
Canys dywedyd yr wyf, trwy’r gras a roddwyd i mi, wrth bob un y sydd yn eich plith beidio ag uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied mewn sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.
4
Canys fel mewn un corph llawer o aelodau sydd genym, ac i’r aelodau oll nid yr un gwaith sydd,
5
felly nyni yn llawer, un corph ydym yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’n gilydd.
6
A chan fod a chenym ddoniau gwahanol yn ol y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai prophwydoliaeth, prophwydwn yn ol cyssondeb ein ffydd;
7
ai gweinidogaeth, ymroddwn i’r weinidogaeth;
8
neu’r hwn sy’n dysgu, i’r dysgad; neu’r hwn sy’n cynghori, i’r cynghoriad; neu’r hwn sy’n rhoddi, gwnaed yn haelionus; yr hwn sy’n llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sy’n trugarhau, mewn llawenydd.
9
Bydded cariad yn ddiragrith.
10
Casewch y drwg; glynwch wrth y da; mewn cariad i’r brodyr, byddwch a serch i’ch gilydd;
11
mewn anrhydedd, yn blaenori eich gilydd; mewn diwydrwydd, nid yn ddiog; yn yr yspryd, yn wresog;
12
tua’r Arglwydd, yn Ei wasanaethu Ef; mewn gobaith, yn llawen; mewn gorthrymder, yn ddioddefgar; mewn gweddi, yn dyfal-barhau;
13
i gyfreidiau’r saint cyfrenwch; a llettygarwch dilynwch.
14
Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid; bendithiwch, ac na felldithiwch.
15
Llawenychwch gyda’r rhai sy’n llawenychu, gwylwch gyda’r rhai sy’n gwylo;
16
yn synied yr un peth tua’ch gilydd; nid yn synied pethau uchel, eithr yn ymostwng i bethau isel. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.
17
I neb na thelwch ddrwg am ddrwg; darperwch bethau da yngolwg pob dyn.
18
Os posibl yw, hyd y mae ynoch, byddwch mewn heddwch â phob dyn.
19
Nac ymddielwch, rai anwyl, eithr rhoddwch le i ddigofaint; canys ysgrifenwyd, “I Mi y mae dial; Myfi a dalaf, medd Iehofah.”
20
Eithr os newyna dy elyn, portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn, marwor tanllyd a bentyri ar ei ben ef.
21
Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16