bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 14
Romans 14
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i ymrafaelion ymresymmiadau.
2
Un sydd a chanddo ffydd i fwytta pob peth; ond y gwan, llysiau a fwytty.
3
Yr hwn sy’n bwytta, na ddirmyged yr hwn nad yw yn bwytta; a’r hwn nad yw’n bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a’i derbyniodd ef.
4
Tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; a sefydlir ef, canys abl yw’r Arglwydd i wneud iddo sefyll.
5
Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ac arall a farn bob diwrnod yn ogyfuwch: bydded pob un wedi ei iawn-berswadio yn ei feddwl ei hun.
6
Yr hwn sy’n ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sy’n bwytta, i’r Arglwydd y mae yn bwytta, ac yn diolch i Dduw; a’r hwn nad yw yn bwytta, i’r Arglwydd nid yw yn bwytta, a diolch i Dduw y mae.
7
Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, na neb yn marw iddo ei hun;
8
canys os byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: gan hyny, pa un bynnag ai byw yr ydym ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym;
9
canys er mwyn hyn Crist a fu farw a byw, fel ar y meirw a’r byw hefyd yr arglwyddiaethai.
10
Ond tydi, paham y berni dy frawd? Neu, tydi etto, paham y dirmygi dy frawd? Canys pawb o honom a osodir ger bron brawd-faingc Duw;
11
canys ysgrifenwyd, “Fel mai byw wyf Fi, medd Iehofah, i Mi y plyga pob glin, A phob tafod a gyffesa i Dduw.”
12
Gan hyny, ynte, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw.
13
Na fydded i ni mwyach, gan hyny, farnu ein gilydd; eithr bernwch hyn yn hytrach, sef peidio â rhoi maen-tarawo i frawd, na thramgwydd.
14
Gwn, a pherswadiwyd fi yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i’r hwn sy’n cyfrif rhyw beth i fod yn aflan, iddo ef aflan yw.
15
Canys os o achos bwyd y mae dy frawd yn cael ei dristau, nid yn ol cariad yr wyt yn rhodio mwyach; na fydded i ti â’th fwyd ddistrywio hwnw tros yr hwn y bu Crist farw.
16
Na chabler, gan hyny, eich daioni chwi;
17
canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, eithr cyfiawnder a thangnefedd a llawenydd yn yr Yspryd Glân.
18
Canys y neb sydd yn y peth hwn yn gwasanaethu Crist sydd foddlawn gan Dduw, a chymmeradwy gan ddynion.
19
Gan hyny, ynte, ymerlynwn â phethau heddwch ac â phethau adeiladaeth tuag at ein gilydd.
20
Na fydded i ti o achos bwyd ddinystrio gwaith Duw. Pob peth sydd lân: eithr drwg yw i’r dyn sy’n bwytta trwy dramgwydd.
21
Da yw peidio â bwytta cig, nac yfed gwin, na gwneud yr hyn y mae dy frawd yn tripio wrtho.
22
Tydi, y ffydd y sydd genyt, bydd â hi gyda thi dy hun ger bron Duw. Dedwydd yw’ r hwn na farna ei hun yn yr hyn a gymmeradwya efe:
23
ond yr hwn sy’n ammeu, os bwytty, condemniwyd ef gan nad o ffydd y bwytty; a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16