bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 15
Romans 15
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
A dylem ni, y cryfion, ddwyn gwendidau y gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.
2
Bydded i bob un o honom ryngu bodd ei gymmydog am yr hyn sy dda er adeiladaeth,
3
canys ni fu i Grist ryngu bodd Ei hun, eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddant a syrthiasant arnaf.”
4
Canys cynnifer bethau ag a ysgrifenwyd, er addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt, fel trwy amynedd a diddanwch yr Ysgrythyrau y byddem a gobaith genym:
5
a Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ol Crist Iesu;
6
fel y bo i chwi yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
7
Gan hyny, derbyniwch eich gilydd fel y bu i Grist eich derbyn chwi, i ogoniant Duw.
8
Canys dywedaf y bu i Grist Ei wneud yn weinidog yr amdorriad er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion i’r tadau,
9
ac y byddai i’r cenhedloedd ogoneddu Duw am Ei drugaredd, fel yr ysgrifenwyd, “O achos hyn y’th foliannaf ym mhlith y cenhedloedd, Ac i’th enw y canaf.”
10
Ac etto y dywaid, “Llawenychwch, genhedloedd, ynghyda’i bobl Ef.”
11
Ac etto, “Molwch Iehofah, yr holl genhedloedd, A chlodfored yr holl bobloedd Ef.”
12
Ac etto Eshaiah a ddywaid, “Bydd gwreiddyn Ieshe, A’r hwn sy’n cyfodi i lywodraethu’r cenhedloedd; Ynddo Ef y cenhedloedd a obeithiant.”
13
A Duw’r gobaith a’ch llanwo â phob llawenydd a thangnefedd yn eich credu, fel y byddoch orlawn yn eich gobaith yngallu yr Yspryd Glân.
14
A pherswadiwyd fi, fy mrodyr, ïe, myfi fy hun, am danoch, eich bod chwi eich hunain yn orlawn o ddaioni, wedi eich llenwi o bob gwybodaeth, yn abl i gynghori eich gilydd hefyd.
15
Ond yn fwy hyderus yr ysgrifenais, rhywfaint, attoch, fel yn eich adgoffau,
16
o achos y gras a roddwyd i mi gan Dduw i fod o honof yn weinidog Iesu Grist at y cenhedloedd, yn offeiriadu yn efengyl Dduw, fel y byddai offrwm y cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Yspryd Glân.
17
Y mae i mi, gan hyny, fy ymffrost yng Nghrist Iesu o ran y pethau tuag at Dduw.
18
Canys ni feiddiaf ddywedyd dim o’r pethau na weithredodd Crist trwof, er ufudd-dod y cenhedloedd, mewn gair a gweithred,
19
trwy allu arwyddion a rhyfeddodau, trwy allu yr Yspryd Glân, fel y bu i mi o Ierwshalem ac o amgylch hyd Ilyricum,
20
lawn-bregethu Efengyl Grist, a chan ymorchestu felly i efengylu, nid lle yr enwyd Crist, fel nad ar sail un arall yr adeiladwn,
21
eithr fel yr ysgrifenwyd, “Gwel y rhai na fynegwyd iddynt am Dano; Ac y rhai na chlywsant, a ddeallant.”
22
Ac o herwydd hyn y’m lluddiwyd lawer gwaith rhag dyfod attoch;
23
ond yn awr, heb fod genyf mwyach le yn y gwledydd hyn, ac ag arnaf hiraeth, er’s llawer o flynyddoedd,
24
am ddyfod attoch, pa bryd bynnag yr af i’r Hispaen, (canys gobeithiaf eich gweled wrth fyned heibio, ac fy hebrwng genych chwi yno, os byddaf yn gyntaf,
25
o ran, wedi fy llenwi o honoch chwi:) ond yn awr myned i Ierwshalem yr wyf,
26
gan weinyddu i’r saint, canys gwelwyd yn dda gan Macedonia ac Achaia wneuthur rhyw gydgyfraniad i’r tlodion ymhlith y saint sydd yn Ierwshalem;
27
canys gwelwyd yn dda ganddynt, a dyledwyr ydynt iddynt, canys os yn eu pethau ysprydol hwynt y cafodd y cenhedloedd gyfran, dyledwyr ydynt hefyd i weini, mewn pethau cnawdol, iddynt hwy.
28
Pan hyn, gan hyny, a orphenwyf, ac wedi selio iddynt y ffrwyth hwn, af ymaith heboch i’r Hispaen;
29
a gwn pan ddelwyf attoch, mai yng nghyflawnder bendith Crist y deuaf.
30
Ac attolygaf i chwi, frodyr, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Yspryd, ar gydymdrech o honoch gyda mi yn eich gweddïau drosof at Dduw,
31
fel y’m gwareder oddiwth y rhai anufudd yn Iwdea, ac ar i’m gweinidogaeth, yr hon sydd i Ierwshalem, fod yn gymmeradwy gan y saint,
32
fel wedi dyfod attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw y’m cydlonner gyda chwi.
33
A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16