bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 16
Romans 16
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Gorchymynaf i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i’r eglwys y sydd yn Cenchrea,
2
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint, ac y cynnorthwyoch hi ym mha beth bynag y byddo rhaid iddi wrthych, canys hi hefyd a fu gymmorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3
Annerchwch Prisca ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yn Iesu Grist,
4
y rhai dros fy mywyd i a ddodasant i lawr eu gyddfau eu hunain; i’r rhai nid myfi yn unig sydd yn rhoddi diolch, eithr hefyd holl eglwysydd y cenhedloedd;
5
annerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Annerchwch Epenetus, fy anwylyd, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist.
6
Annerchwch Mair, yr hon a roes lafur mawr arnoch.
7
Annerchwch Andronicus ac Iwnias, fy ngheraint ac fy nghyd-garcharorion, y rhai ydynt hynod ym mhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt o’m blaen i yng Nghrist.
8
Annerchwch Ampliatus, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9
Annerchwch Wrbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist; a Stachus, fy anwylyd.
10
Annerchwch Apeles, y cymmeradwyedig yng Nghrist. Annerchwch y rhai sy o dylwyth Aristobwlus.
11
Annerchwch Herodion, fy nghar. Annerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12
Annerchwch Truphena a Truphosa, y rhai sy’n llafurio yn yr Arglwydd. Annerchwch Persis, yr anwylyd, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd.
13
Annerchwch Rwphus, yr etholedig yn yr Arglwydd, ac ei fam ef a minnau.
14
Annerchwch Asuncritus, Phlegon, Hermes, Patrobus, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt.
15
Annerchwch Philologus ac Iwlia, Nerëus a’i chwaer, ac Olumpas, a’r holl saint y sydd gyda hwynt.
16
Annerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Eich annerch y mae holl eglwysi Crist.
17
Ac attolygaf i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy’n peri ymraniadau a thramgwyddau yn groes i’r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt;
18
canys y cyfryw rai, ein Harglwydd Crist ni wasanaethant, eithr eu bol eu hunain; a thrwy eu gweniaith ac ymadrodd teg y twyllant galonnau y rhai di-ddrwg.
19
Canys eich ufudd-dod chwi, at bawb y daeth. Ynoch chwi, gan hyny, yr wyf yn llawenychu; ond ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sy dda, ac yn wirion tuag at yr hyn sydd ddrwg.
20
A Duw yr heddwch a ysiga Satan tan eich traed ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
21
Eich annerch y mae Timothëus, fy nghydweithiwr, a Lwcius, ac Iason, a Sosipater, fy ngheraint.
22
Eich annerch yr wyf fi Tertius, yr hwn a ’sgrifenais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.
23
Eich annerch y mae Gaius, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich annerch y mae Erastus, disdain y ddinas; a Cwartus, y brawd.
25
I’r Hwn sydd abl i’ch cadarnhau yn ol fy efengyl, a phregethiad Iesu Grist, yn ol datguddiad y dirgelwch am yr hwn yn yr amseroedd tragywyddol yr oedd distawrwydd, ond a eglurwyd yn awr trwy’r Ysgrythyrau Prophwydol yn ol gorchymyn y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hyspys i’r holl genhedloedd er ufudd-dod ffydd;
26
i’r unig Dduw doeth, trwy Iesu Grist, i’r Hwn bydded y gogoniant yn dragywydd. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16