bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 4
Romans 4
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd?
2
Canys, os Abraham trwy weithredoedd a gyfiawnhawyd, y mae ganddo fatter ymffrost,
3
eithr nid tua Duw, canys pa beth y mae’r Ysgrythyr yn ei ddweud? “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”
4
Ac i’r hwn sy’n gweithio, y gwobr ni chyfrifir o ras, eithr o ddyled;
5
ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol,
6
cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd,
7
“Dedwydd y rhai y maddeuwyd eu hanghyfreithderau, Ac y gorchuddiwyd eu pechodau;
8
Dedwydd y gŵr i’r hwn ni chyfrif Iehofah bechod.”
9
Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn,
10
Cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd, gan hyny, y cyfrifwyd hi? Ai pan yn yr amdorriad yr ydoedd, neu yn y di-amdorriad? Nid yn yr amdorriad, eithr yn y di-amdorriad.
11
Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad,
12
fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’ r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad,
13
Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14
Canys os y rhai sydd o’r Gyfraith ydynt etifeddion, gwaghawyd ffydd, a dirymwyd yr addewid:
15
canys y Gyfraith, digofaint a weithia hi; ond lle nad oes Cyfraith nid oes trosedd.
16
O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham,
17
yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;
18
yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.”
19
Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah;
20
ond tuag at addewid Duw nid ammheuodd trwy anghrediniaeth, eithr nerthwyd ef trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw,
21
ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef:
22
ac am hyny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23
Ac nid ysgrifenwyd er ei fwyn ef yn unig, “Y cyfrifwyd iddo,”
24
eithr er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr Hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd o feirw,
25
yr hwn a draddodwyd o achos ein camweddau, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16