bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 3
Romans 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Pa beth, gan hyny, yw rhagoriaeth yr Iwddew? Neu pa beth yw budd yr amdorriad?
2
Llawer ym mhob modd. Yn gyntaf, oblegid yr ymddiriedwyd oraclau Duw iddynt: canys pa beth os di-ffydd oedd rhai? A fydd eu hanghrediniaeth yn gwneuthur ffyddlondeb Duw yn ddirym?
3
Na atto Duw; ond bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddwr,
4
fel yr ysgrifenwyd, “Fel y’th gyfiawnhaer yn Dy eiriau, Ac y gorfyddech pan y’th fernir.”
5
Ond os ein hanghyfiawnder a ganmol gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr Hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dyn yr wyf yn dywedyd;)
6
Na atto Duw; canys yna, pa fodd y barna Duw y byd?
7
Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a fu helaethach i’w ogoniant Ef, paham yr wyf finnau hefyd mwyach yn cael fy marnu fel pechadur,
8
ac na (fel y’n ceblir, ac y dywaid rhai ein bod yn dywedyd,) wnawn y pethau drwg fel y delo y pethau da, y rhai y mae eu condemniad yn gyfiawn.
9
Pa beth, gan hyny? A ydym ni yn fwy rhagorol? Ddim o gwbl; canys cyhuddasom o’r blaen yr Iwddewon a’r Groegwyr hefyd o fod,
10
bawb o honynt, tan bechod; fel yr ysgrifenwyd, “Nid oes neb cyfiawn, nid hyd yn oed un;
11
Nid oes neb y sy’n deall; Nid oes neb y sy’n ceisio Duw.
12
Yr oll a wyrasant, ynghyd yr aethant yn anfuddiol, Nid oes neb yn gwneuthur daioni; nid oes hyd yn oed un.
13
Bedd agored yw eu gwddf; A’u tafodau y gwnaethant ddichell, Gwenwyn aspiaid sydd dan eu gwefusau.
14
Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.
15
Buan yw eu traed i dywallt gwaed;
16
Distryw ac adfyd sydd yn eu ffyrdd;
17
A ffordd tangnefedd nid adwaenant.
18
Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid,”
19
Ond gwyddom am gynnifer bethau ag y mae’r Gyfraith yn eu dywedyd, mai wrth y rhai tan y Gyfraith y’u dywaid, fel y bo pob genau wedi ei gau, ac yr elo yr holl fyd dan farn Duw;
20
canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd ger Ei fron Ef, canys trwy’ r Gyfraith y mae adnabod pechod.
21
Ond yn awr, yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu a thystiolaeth iddo gan y Gyfraith a’r Prophwydi;
22
sef, cyfiawnder Duw trwy ffydd yn Iesu Grist, i bawb y sy’n credu;
23
canys nid oes gwahaniaeth, canys pawb a bechasant,
24
ac ydynt ar ol am ogoniant Duw, yn cael eu cyfiawnhau yn rhad gan Ei ras Ef trwy’r prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu,
25
yr Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd, trwy Ei waed Ef, i ddangos Ei gyfiawnder Ef, o achos maddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, yn nioddefgarwch Duw;
26
i ddangos, meddaf, Ei gyfiawnder Ef y pryd hwn, fel y bo Efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd a chanddo ffydd yn yr Iesu.
27
Pa le, gan hyny, y mae’r ymffrost? Cauwyd allan. Trwy ba gyfraith? Ai cyfraith gweithredoedd? Nage; eithr trwy gyfraith ffydd. Cyfrifwn,
28
gan hyny, y cyfiawnheir dyn trwy ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd y Gyfraith.
29
Ai i’r Iwddewon yn unig y mae Efe yn Dduw? Nage; ond i’r cenhedloedd hefyd;
30
ïe, i’r cenhedloedd hefyd, gan mai un yw Duw, yr Hwn a gyfiawnha yr amdorriad trwy ffydd, ac y diamdorriad trwy ffydd.
31
Ai dirymu’r Gyfraith yr ydym trwy ffydd? Na atto Duw; eithr sefydlu’r Gyfraith yr ydym.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16