bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 6
Romans 6
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Arhoswn mewn pechod fel y bo i ras amlhau?
2
Na atto Duw. Ni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y byddwn fyw etto ynddo?
3
Ai heb wybod yr ydych mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, i’w farwolaeth Ef y’n bedyddiwyd?
4
Cyd-gladdwyd ni, gan hyny, gydag Ef trwy farwolaeth, er mwyn fel y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y byddai i ninnau hefyd rodio yn newydd-deb buchedd;
5
canys os ein cyd-uno ag Ef a fu i ni trwy gyffelybiaeth Ei farwolaeth Ef, trwy gyffelybiaeth Ei adgyfodiad hefyd y byddwn felly;
6
gan wybod hyn y bu i’n hen ddyn ni ei groes-hoelio gydag Ef, fel y dirymmid y corph pechadurus er mwyn na wasanaethom bechod mwyach,
7
canys yr hwn a fu farw a ollyngwyd yn rhydd oddiwrth bechod.
8
Ac os buom feirw gyda Christ, credwn y byddwn fyw hefyd gydag Ef,
9
gan wybod nad yw Crist, ar ol Ei gyfodi o feirw, yn marw mwyach, marwolaeth nid arglwyddiaetha arno mwyach:
10
canys yn yr hyn y bu Efe farw, i bechod y bu farw unwaith am oll; ond yn yr hyn y bu Efe fyw,
11
byw y mae i Dduw; felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.
12
Na theyrnased pechod, gan hyny, yn eich corph marwol fel yr ufuddhaoch i’w chwantau ef;
13
ac na roddwch eich aelodau, yn arfau anghyfiawnder, i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, fel rhai o feirw yn fyw, a’ch aelodau,
14
yn arfau cyfiawnder i Dduw: canys pechod, arnoch chwi nid arglwyddiaetha, canys nid ydych tan y Gyfraith, eithr tan ras.
15
Pa beth, gan hyny? Ai pechu a wnawn, o herwydd nad ydym tan y Gyfraith, eithr tan ras?
16
Na atto Duw. Oni wyddoch mai i’r hwn y rhoddwch eich hunain yn weision er ufudd-dod, gweision ydych i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo, pa un bynnag ai gweision pechod i farwolaeth; neu weision ufudd-dod, i gyfiawnder?
17
Ond diolch i Dduw, y buoch weision pechod, ond ufuddhasoch o’r galon i’r ffurf o ddysgad a draddodwyd i chwi;
18
ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod y’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
19
Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd o herwydd gwendid eich cnawd; canys fel y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder er sancteiddiad.
20
Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych tuag at gyfiawnder.
21
Pa ffrwyth, gan hyny, oedd i chwi y pryd hwnw yn y pethau y mae arnoch yn awr gywilydd o’u plegid, canys eu diwedd hwy yw marwolaeth?
22
Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae genych eich ffrwyth i sancteiddiad,
23
a’r diwedd yn fywyd tragywyddol; canys cyflog pechod yw marwolaeth, ond dawn Duw yw bywyd tragywyddol yn Iesu Grist ein Harglwydd ni.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16