bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 5
Romans 5
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Wedi ein cyfiawnhau, gan hyny, trwy ffydd, bydded heddwch genym gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
2
trwy’r Hwn y cawsom hefyd ein dyfodfa, trwy ffydd, i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, a bydded i ni orfoleddu yn ngobaith gogoniant Duw;
3
ac nid hyny yn unig, eithr bydded i ni orfoleddu yn ein gorthrymderau hefyd, gan wybod fod gorthrymder yn gweithredu dioddefgarwch;
4
a dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith;
5
a gobaith ni chywilyddia, gan fod cariad Duw wedi ei dywallt allan yn ein calonnau trwy’r Yspryd Glân yr Hwn a roddwyd i ni.
6
Canys Crist, a ni etto yn weiniaid, mewn pryd, tros annuwiolion y bu farw;
7
canys braidd tros un cyfiawn y bydd neb farw, canys tros y dyn da, hwyrach hyd yn oed y beiddiai un farw.
8
A chanmol Ei gariad Ei hun tuag attom y mae Duw, gan mai tra etto pechaduriaid oeddym trosom y bu Crist farw.
9
Llawer mwy, gan hyny, wedi ein cyfiawnhau yn awr trwy Ei waed Ef, y byddwn gadwedig, trwyddo Ef, oddiwrth y digofaint.
10
Canys os pan yn elynion y’n cymmodwyd â Duw trwy farwolaeth Ei Fab, llawer mwy, wedi ein cymmodi, y byddwn gadwedig trwy Ei fywyd Ef;
11
ac nid hyny yn unig, eithr gorfoleddu hefyd yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y cawsom y cymmod.
12
Am hyny, fel trwy un dyn y bu i bechod ddyfod i mewn i’r byd; a thrwy bechod, farwolaeth; ac felly ar bob dyn yr aeth marwolaeth,
13
o herwydd i bawb bechu, canys hyd y Gyfraith yr oedd pechod yn y byd, a phechod ni chyfrifir pan nad oes cyfraith;
14
eithr teyrnasodd marwolaeth o Adam hyd Mosheh, hyd yn oed tros y rhai na phechasant yn ol cyffelybiaeth trosedd Adam, yr hwn sydd gynllun yr Hwn oedd ar ddyfod.
15
Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu llawer feirw, llawer mwy y bu gras Duw a’r rhodd trwy ras yr un Dyn Iesu Grist mewn gorlawnder i laweroedd.
16
Ac nid fel trwy un a bechodd y mae’r rhodd, canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o lawer o gamweddau i gyfiawnhad.
17
Canys os trwy gamwedd yr un y bu i farwolaeth deyrnasu trwy yr un, llawer mwy y rhai sy’n derbyn y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, a deyrnasant mewn bywyd trwy yr Un, Iesu Grist.
18
Gan hyny, ynte, fel trwy un camwedd y bu ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un gwaith cyfiawn y bu ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd;
19
canys fel trwy anufudd-dod yr un dyn pechaduriaid y gwnaethpwyd y llawer, felly hefyd trwy ufudd-dod yr Un,
20
cyfiawnion y gwneir y llawer. A’r Gyfraith hefyd a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd; ond lle yr amlhaodd pechod, rhagor mewn gorlawnder yr oedd gras;
21
er mwyn fel y teyrnasodd pechod ym marwolaeth, felly hefyd y byddai i ras deyrnasu, trwy gyfiawnder, i fywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16