bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 13
Romans 13
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Bydded pob enaid wedi ei ddarostwng i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw; a’r rhai y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.
2
Felly yr hwn sy’n ymosod yn erbyn yr awdurdod, ordinhad Duw y mae efe yn ei gwrthsefyll; a’r rhai a wrthsafant a dderbyniant iddynt eu hunain farn.
3
Canys y llywodraethwyr, nid ydynt ofn i’r weithred dda, ond i’r ddrwg. A ewyllysi di nad ofnech yr awdurdod? Gwna yr hyn sydd dda, a chai fawl ganddo, canys gweinidog Duw yw i ti er daioni;
4
ond os yr hyn sydd ddrwg a wnei, ofna, canys nid yn ofer y cleddyf a wisg efe, canys gweinidog Duw yw, dialydd llid i’r hwn sy’n gwneuthur drwg.
5
Gan hyny, y mae rhaid ymddarostwng, nid yn unig o herwydd y llid, eithr hefyd o herwydd cydwybod:
6
canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd, canys gwasanaethwyr Duw ydynt, yn ddyfal-ofalu am y peth hwn.
7
Telwch i bawb eu dyledion; i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, deyrnged; i’r hwn y mae toll, doll; i’r hwn y mae ofn, ofn; i’r hwn y mae anrhydedd, anrhydedd.
8
I neb na fyddwch mewn dyled o ddim oddieithr o garu eich gilydd, canys yr hwn sy’n caru arall, y Gyfraith a gyflawnodd efe;
9
canys hyn, “Ni odinebi, Ni leddi, Ni ladrattai, Ni thrachwanti,” ac os oes rhyw orchymyn arall, yn yr ymadrodd hwn y crynhoir, “Car dy gymmydog fel ti dy hun.”
10
Cariad ni wna i’w gymmydog ddrwg; cyflawnder y Gyfraith, gan hyny, yw cariad.
11
A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i chwi i ddeffroi o gwsg, canys yn awr nes yw ein hiachawdwriaeth ni na phan gredasom.
12
Y nos a gerddodd ym mhell, a’r dydd a nesaodd; diosgwn, gan hyny, weithredoedd y tywyllwch, a rhoddwn am danom arfau y goleuni.
13
Fel yn y dydd, rhodiwn yn weddus, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen;
14
eithr rhoddwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist; a rhag-ddarbod dros y cnawd, er ei chwantau ef, na wnewch.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16