bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 7
Romans 7
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ai heb wybod yr ydych, frodyr, (canys wrth rai yn gwybod y Gyfraith yr wyf yn dywedyd,) fod y Gyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn am gymmaint o amser ag y mae efe yn fyw?
2
Canys y wraig ag iddi ŵr, i’r gŵr, tra yn fyw, y rhwymwyd hi gan y Gyfraith; ond os bydd marw y gŵr, rhyddhawyd hi oddiwrth gyfraith y gŵr.
3
Gan hyny, ynte, tra byw yw’r gŵr, godineb-wraig y gelwir hi os aiff yn eiddo gŵr arall; ond os marw fydd y gŵr, rhydd yw oddiwrth y gyfraith fel na bo yn odineb-wraig wedi myned yn eiddo gŵr arall.
4
Gan hyny, fy mrodyr, chwithau hefyd a’ch gwnaethpwyd yn feirw i’r Gyfraith trwy gorph Crist, fel yr eloch yn eiddo un arall, yr Hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw.
5
Canys pan oeddym yn y cnawd, y gwyniau pechadurus, y rhai sydd trwy’r Gyfraith, a weithient yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;
6
ond yn awr y’n rhyddhawyd oddiwrth y Gyfraith, wedi ein meirw i’r peth y’n hattelid ynddo, fel mai gwasanaethu yr ydym yn newydd-deb buchedd, ac nid yn hendra y llythyren.
7
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Y Gyfraith sydd bechod? Na atto Duw; eithr pechod nid adnabum, oddi eithr trwy’ r Gyfraith; canys trachwant nid adnabuaswn
8
oddieithr i’r Gyfraith ddywedyd, “Ni thrachwanti;” ond wedi cymmeryd achlysur, pechod a weithiodd ynof, trwy’r Gyfraith,
9
bob trachwant; canys yn wahan oddiwrth y Gyfraith, y mae pechod yn farw. Ac myfi a fu’m fyw unwaith yn wahan oddiwrth y Gyfraith; ond wedi dyfod y gorchymyn, pechod a adfywiodd, ac myfi a fu’m farw;
10
a chafwyd y gorchymyn genyf, yr hwn oedd i fywyd, i farwolaeth;
11
canys pechod, wedi cymmeryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd; a thrwyddo ef y’m lladdodd.
12
Felly y Gyfraith, sanctaidd yw; a’r gorchymyn yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac yn dda.
13
Ai’r hyn sydd dda, gan hyny, a aeth yn farwolaeth i mi? Na atto Duw: eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio, trwy’r hyn sydd dda, farwolaeth i mi —, fel yr elai pechod yn bechadurus dros fesur trwy’r gorchymyn.
14
Canys gwyddom fod y Gyfraith yn ysprydol; ond myfi, cnawdol wyf, wedi fy ngwerthu dan bechod;
15
canys yr hyn yr wyf yn ei weithredu, nis gwn ef, canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneud; eithr yr hyn sydd gas genyf, hwnw yr wyf yn ei wneuthur.
16
Ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio yr wyf yn ei wneuthur, cydsynio â’r Gyfraith yr wyf mai da yw.
17
Ac yn awr, nid myfi sydd mwyach yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof;
18
canys gwn nad oes yn trigo ynof, hyny yw yn fy nghnawd, ddim da; canys yr ewyllysio sydd bresennol gyda mi, ond gweithredu y da nid yw;
19
canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, y da, yr wyf yn ei wneuthur, eithr yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, y drwg, hwnw yr wyf yn ei wneud;
20
ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, hwnw yr wyf yn ei wneuthur, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof.
21
Cenfyddaf, gan hyny, y gyfraith i mi sy’n ewyllysio gwneuthur yr hyn sy dda, mai i mi yr hyn sy ddrwg sydd bresennol;
22
canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ol y dyn oddimewn,
23
ond gwelaf gyfraith arall yn fy aelodau, yn rhyfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
24
Y truan o ddyn myfi! O na’m rhyddheid o’r corph marwol hwn!
25
Diolch yr wyf i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hyny, ynte, myfi fy hun â’m meddwl wyf yn gwasanaethu cyfraith Dduw; ond â’m cnawd, gyfraith pechod.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16