bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 8
Romans 8
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Nid oes, gan hyny, yn awr ddim condemniad i’r rhai yng Nghrist Iesu,
2
canys cyfraith Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd oddiwrth gyfraith pechod a marwolaeth;
3
canys yr hyn oedd ammhosibl i’r Gyfraith, gan ei bod yn wan trwy’r cnawd, Duw gan ddanfon Ei Fab Ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod,
4
a gondemniodd bechod yn y cnawd, fel y byddai i ddeddf y Gyfraith ei chyflawni ynom ni, y rhai, nid yn ol y cnawd yr ym yn rhodio, ond yn ol yr Yspryd.
5
Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, pethau’r cnawd a syniant; ond y rhai yn ol yr Yspryd, bethau’r Yspryd.
6
Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; ond syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd yw;
7
canys syniad y cnawd, gelyniaeth yn erbyn Duw yw, canys i gyfraith Dduw nid yw’n ymddarostwng, canys ni all er dim;
8
a’r rhai sydd yn y cnawd, rhyngu bodd Duw ni allant.
9
Ond chwychwi nid ydych yn y cnawd eithr yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os yw neb heb Yspryd Crist ganddo, hwnw nid yw yn eiddo Ef.
10
Ond os yw Crist ynoch, y corph sydd farw o herwydd pechod, ond yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder.
11
Ac os Yspryd yr Hwn a gyfododd Iesu o feirw sy’n trigo ynoch, yr Hwn a gyfododd Crist Iesu o feirw a fywha hefyd eich cyrph marwol trwy Ei Yspryd Ef, yr Hwn sy’n trigo ynoch.
12
Gan hyny, ynte, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd,
13
fel yn ol y cnawd y bo i ni fyw, canys os yn ol y cnawd yr ydych yn byw, ar fedr marw yr ydych; ond os trwy’r Yspryd y marwhewch weithredoedd y corph, byw fyddwch,
14
canys y sawl sydd ag Yspryd Duw yn eu harwain, y rhai hyn yw meibion Duw;
15
canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn er ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy’r Hwn y llefwn, Abba Dad.
16
Y mae’r Yspryd Ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hyspryd ni mai plant Duw ydym;
17
ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, ond cyd-etifeddion â Christ, os yn wir cyd-ddioddef gydag Ef yr ydym, fel y’n cyd-ogonedder hefyd.
18
Canys cyfrif yr wyf nad o ddim gwerth yw dioddefiadau yr amser presennol mewn cymhariaeth â’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio tuag attom.
19
Canys awydd-fryd y greedigaeth, am ddatguddiad meibion Duw y mae’n disgwyl;
20
canys i oferedd y bu i’r greedigaeth ei darostwng, nid o’i bodd, eithr oblegid yr Hwn a’i darostyngodd,
21
mewn gobaith y bydd i’r greedigaeth ei hun ei rhyddhau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid ogoneddus meibion Duw;
22
canys gwyddom fod yr holl greedigaeth yn cydocheneidio,
23
ac ynghyd mewn gwewyr hyd yn awr. Ac nid hyny yn unig, eithr hefyd a chenym flaen-ffrwyth yr Yspryd, nyni ein hunain hefyd ynom ein hunain a ocheneidiwn, gan ddisgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph; canys trwy obaith y’n hachubwyd.
24
Ond gobaith a welir nid yw obaith, canys yr hyn a wel neb, pwy sydd yn ei obeithio ef?
25
Ond os yr hyn na welwn, yr ydym yn ei obeithio, trwy amynedd yr ym yn disgwyl am dano.
26
A’r un ffunud y mae’r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid, canys pa beth a weddïem fel y dylem, nis gwyddom; eithr yr Yspryd Ei hun sy’n erfyn trosom ag ocheneidiau anrhaethadwy;
27
a’r Hwn sy’n chwilio’r calonnau a ŵyr pa beth yw syniad yr Yspryd, gan mai yn ol Duw yr erfyn Efe dros y seintiau.
28
A gwyddom mai i’r rhai sy’n caru Duw y mae pob peth yn cydweithio er daioni, y rhai sydd wedi eu galw yn ol Ei arfaeth;
29
canys y rhai a rag-adnabu Efe, a rag-ordeiniodd Efe hefyd i fod yn un ffurf a delw Ei Fab, fel y byddai Efe yn gyntafanedig ym mhlith llawer o frodyr;
30
ac y rhai a rag-ordeiniodd Efe, y rhai hyny a alwodd Efe hefyd; ac y rhai a alwodd Efe, y rhai hyny a gyfiawnhaodd Efe hefyd; ac y rhai a gyfiawnhaodd Efe, y rhai hyny a ogoneddodd Efe hefyd.
31
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn wrth y pethau hyn?
32
Ai, Os Duw sydd trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Ië, yr Hwn nad arbedodd Ei Fab Ei hun, eithr trosom ni oll y traddododd Ef, pa wedd hefyd, ynghydag Ef, na ddyry bob peth i ni?
33
Pwy a rydd ddim yn erbyn y rhai a etholwyd gan Dduw? Duw yw’r Hwn sy’n cyfiawnhau.
34
Pwy yw’r hwn sy’n condemnio? Crist Iesu, yr Hwn a fu farw, ïe, yn hytrach yr Hwn a gyfodwyd o feirw, yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr Hwn sydd hefyd yn erfyn trosom.
35
Pwy a’n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? Ai gorthrymder? Ai ing? Ai ymlid? Ai newyn? Ai noethni?
36
Ai enbydrwydd? Ai cleddyf? Fel yr ysgrifenwyd, “O’th achos Di y’n lleddir ar hyd y dydd, Y’n cyfrifir fel defaid y lladdfa.”
37
Eithr yn y pethau hyn oll y tra-gorchfygwn trwy yr Hwn a’n carodd ni,
38
canys perswadiwyd fi na fydd na marwolaeth, na bywyd, nac angel, na thywysogaethau, na phethau presennol,
39
na phethau i ddyfod, na galluoedd, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, yn abl i’n gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16