bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Romans 10
Romans 10
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Brodyr, ewyllys fy nghalon a’m gweddi ar Dduw, trostynt hwy, er iachawdwriaeth, y maent;
2
canys tyst wyf iddynt fod sel i Dduw ganddynt, eithr nid yn ol gwybodaeth:
3
canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu cyfiawnder eu hunain,
4
i gyfiawnder Duw nid ymostyngasant, canys diwedd y Gyfraith yw Crist, er cyfiawnder i bob un sy’n credu.
5
Canys Mosheh a ’sgrifenodd mai’r “dyn y sy’n gwneuthur y cyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, a fydd byw trwyddo.”
6
Ond y cyfiawnder y sydd o ffydd, fel hyn y dywaid, Na ddywaid yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hyny yw i ddwyn Crist i wared);
7
neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hyny yw i ddwyn Crist i fynu o feirw).
8
Eithr pa beth a ddywaid efe? Agos attat y mae’r gair, yn dy enau ac yn dy galon, hyny yw, gair ffydd yr hwn yr ydym yn ei bregethu;
9
mai os cyfaddefi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon y bu i Dduw Ei gyfodi Ef o feirw, cadwedig fyddi;
10
canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyfaddefir i iachawdwriaeth,
11
canys dywaid yr Ysgrythyr, “Pob un y sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir;”
12
canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iwddew a Groegwr, canys yr un yw Arglwydd pawb, yn oludog i bawb y sy’n galw Arno;
13
canys pob un a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.
14
Pa fodd, ynte, y galwent ar yr Hwn na chredasant ynddo? A pha fodd y credent yn yr Hwn na chlywsant? A pha fodd y clywent heb un yn cyhoeddi?
15
A pha fodd y cyhoeddent, os na ddanfonwyd hwynt? Fel yr ysgrifenwyd, “Mor brydferth yw traed y rhai yn efengylu pethau da!”
16
Eithr nid pawb a wrandawodd y newyddion da, canys Eshaiah a ddywaid, “Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd?”
17
Felly, ffydd, trwy glywed y mae; a chlywed trwy air Crist.
18
Eithr dywedyd yr wyf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir, “I’r holl ddaear yr aeth eu swn allan; Ac i holl derfynau’r byd, eu geiriau hwynt.”
19
Eithr dywedaf, Oni fu i Israel wybod? Y cyntaf, Mosheh a ddywaid, “Myfi a yrraf eiddigedd arnoch, trwy’r rhai nad ydynt genedl, Trwy genedl anneallus y digiaf chwi.”
20
Ac Eshaiah sydd hyderus iawn, ac a ddywaid, “Cafwyd Fi gan y rhai na cheisient Fi; Eglur y’m gwnaethpwyd i’r rhai nad ymofynent am Danaf.”
21
Ond wrth Israel y dywaid efe, “Yr holl ddydd y lledais Fy nwylaw at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.”
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16