bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 1
Mark 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Dechreu efengyl Iesu Grist.
2
Fel y mae’n ysgrifenedig yn Esaias y proffwyd, Wele, yr wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd:
3
llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef,
4
felly y daeth bod Ioan y bedyddiwr yn y diffeithwch yn cyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5
Ac âi allan ato holl wlad Iwdea a thrigolion Caersalem oll, a bedyddid hwynt ganddo yn afon Iorddonen gan gyffesu ohonynt eu pechodau.
6
Ac yr oedd Ioan wedi ymwisgo â blew camel ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
7
A chyhoeddai gan ddywedyd, “Daw fy nghryfach ar fy ol, nad wyf deilwng i blygu a datod carrai ei esgidiau.
8
Bedyddiais i chwi â dwfr, ond bedyddia ef chwi â’r Ysbryd Glân.”
9
Ac yn y dyddiau hynny y daeth Iesu o Nasareth Galilea, ac y bedyddiwyd ef yn yr Iorddonen gan Ioan.
10
Ac yna wrth esgyn o’r dwfr, gwelodd hollti’r nefoedd, a’r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno;
11
a llef a ddaeth o’r nefoedd, “Ti yw fy Mab annwyl; ynot ti yr ymhyfrydais.”
12
Ac yna gyr yr Ysbryd ef i’r diffeithwch;
13
a bu yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwylltfilod; a’r angylion a weinyddai arno.
14
Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea gan gyhoeddi efengyl Duw, a dywedyd,
15
“Cyflawnwyd yr amser, ac agoshaodd teyrnas Dduw: edifarhewch a chredwch yn yr efengyl.”
16
Ac wrth rodio ger môr Galilea, gwelodd Simon ac Andreas brawd Simon yn rhwydo yn y môr; canys pysgodwyr oeddynt.
17
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Dowch ar fy ol i, a gwnaf i chwi ddyfod yn bysgodwyr dynion.”
18
Ac yna gadawsant y rhwydau a dilynasant ef.
19
Ac wedi mynd rhagddo ychydig, gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau.
20
Ac yna galwodd hwynt; a gadawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r gweision cyflog, ac aethant ymaith ar ei ol ef.
21
A chyrchant i Gapernaum; ac yna’r Sabath, wedi iddo fynd i’r synagog, dechreuodd ddysgu;
22
a synnent at ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
23
Ac yna yr oedd yn eu synagog ddyn ag ysbryd aflan,
24
a gwaeddodd gan ddywedyd, “Beth sydd rhyngom ni a thi Iesu o Nasareth? A ddeuthost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.”
25
A cheryddodd yr Iesu ef, “Taw, a dos allan ohono.”
26
Ac wedi i’r ysbryd aflan ei ddirdynnu ef, a llefain â llef uchel, aeth allan ohono.
27
Ac arswydodd pawb, nes ymholi ohonynt, gan ddywedyd, “Beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd ag awdurdod! Hyd yn oed yr ysbrydion aflan a orchymyn ef, ac ufuddhânt iddo.”
28
Ac aeth y sôn amdano allan yn ebrwydd i bobman drwy holl gymdogaeth Galilea.
29
Ac yna wedi mynd allan o’r synagog, aethant i dŷ Simon ac Andreas gydag Iago ac Ioan.
30
A chwegr Simon oedd yn gorwedd mewn twymyn; ac yna dywedant wrtho amdani.
31
Ac aeth yntau ati, a chododd hi dan afael yn ei llaw; a gadawodd y dwymyn hi, a gweinyddai hithau arnynt.
32
Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, dygent ato’r holl rai cleifion, a’r rhai â chythreuliaid ynddynt;
33
ac yr oedd yr holl ddinas wedi ymgasglu wrth y drws.
34
Ac fe iachaodd lawer o gleifion dan amrywiol heintiau, a chythreuliaid lawer a fwriodd allan; ac ni adai i’r cythreuliaid lefaru, gan yr adwaenent ef.
35
A’r bore yn blygeiniol iawn, cododd, ac aeth allan, ac aeth ymaith i le anghyfannedd, ac yno gweddiai.
36
A’i ymlid a wnaeth Simon a’r rhai oedd gydag ef,
37
a chael hyd iddo, a dywedyd wrtho, “Pawb a’th gais.”
38
A dywed yntau wrthynt, “Awn draw i’r trefydd nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd; canys i hynny y deuthum allan.”
39
Ac fe aeth, gan bregethu yn eu synagogau hwynt yn holl Galilea, a chan fwrw allan y cythreuliaid.
40
A daw ato un gwahanglwyfus yn erfyn arno, ac yn penlinio, gad ddywedyd wrtho, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”
41
A chan dosturio estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, ac medd wrtho, “Mynnaf, glanhaer di.”
42
Ac yna ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef.
43
Ac wedi ei chwyrn rybuddio, yn ebrwydd gyrrodd ef allan;
44
ac eb ef wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
45
Aeth yntau allan, a dechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r hanes, fel na allai ef mwy fynd yn amlwg i ddinas, eithr allan mewn lleoedd anghyfannedd yr oedd; a deuent ato o bobman.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16