bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 2
Mark 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Ac wedi iddo fynd drachefn i Gapernaum ymhen dyddiau, clywyd ei fod yn tŷ.
2
Ac ymgasglodd llawer, fel nad oedd mwyach le hyd yn oed wrth y drws; a llefarai wrthynt y gair.
3
A deuant ato ag un parlysedig a gludid gan bedwar.
4
A chan na allent ei ddwyn hyd ato o achos y dyrfa, didoesant y to lle’r oedd; ac wedi torri trwodd, gollyngant y gwely lle gorweddai’r parlysedig.
5
A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywed wrth y parlysedig, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
6
Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yno’n eistedd, ac yn ymresymu yn eu calonnau,
7
“Beth y mae hwn fel hyn yn ei siarad? Cablu y mae; pwy all faddeu pechodau ond un — Duw?”
8
Ac yna gwybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, a dywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch fel hyn yn eich calonnau?
9
Beth sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y parlysedig, ‘Maddeuwyd dy bechodau,’ ai dywedyd, ‘Cyfod a chymer dy wely a rhodia’?
10
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn i faddeu pechodau ar y ddaear,” — eb ef wrth y parlysedig,
11
“Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, cymer dy wely, a dos adref.”
12
A chyfododd, ac yna cymerth ei wely, ac aeth ymaith yng ngŵydd pawb, nes synnu o bawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Ni welsom erioed y fath beth.”
13
Ac aeth allan drachefn i lan y môr; a’r holl dyrfa a ddeuai ato, a dysgai yntau hwynt.
14
Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alpheus yn eistedd wrth y dollfa, a dywed wrtho, “Dilyn fi.” A chyfododd yntau a dilynodd ef.
15
Ac fe ddigwydd ei fod ar bryd bwyd yn ei dŷ; a llawer o dollwyr a phechaduriaid oedd yn cyd-fwyta â’r Iesu a’i ddisgyblion; canys yr oeddynt yn llawer, a dilynent ef.
16
A’r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid, yn gweled ei fod yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r tollwyr, a ddywedai wrth ei ddisgyblion, “Paham y mae’n bwyta gyda’r tollwyr a’r pechaduriaid?”
17
A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrthynt, “Nid rhaid i’r cryfion wrth feddyg, ond i’r cleifion; ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.”
18
Ac yr oedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio. A deuant a dywedant wrtho, “Paham yr ymprydia disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?”
19
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas, tra fo’r prïodfab gyda hwynt, ymprydio? Cyhyd ag y mae ganddynt y prïodfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
20
Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddiwrthynt y prïodfab, ac yna yr ymprydiant yn y dydd hwnnw.
21
Ni wnïa neb glwt o frethyn crai ar fantell hen; onid e, fe dynn y darn llanw oddiwrthi, y newydd oddiwrth yr hen; a gwaeth rhwyg a fydd.
22
Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin y crwyn, a’r gwin a gollir, a’r crwyn hefyd. Ond gwin newydd mewn crwyn newydd.”
23
A digwyddodd iddo ar y Sabath dramwy drwy’r meysydd yd, a dechreuodd ei ddisgyblion gerdded rhagddynt dan dynnu’r tywys.
24
Ac meddai’r Phariseaid wrtho, “Wele, paham y gwnant ar y Sabath yr hyn ni ddylid?”
25
Ac ebr yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan ddaeth eisiau arno, a phan newynodd ef a’r rhai oedd gydag ef?
26
pa fodd yr aeth i dŷ Dduw pan oedd Abiathar yn archoffeiriad, ac y bwytaodd y torthau gosod, y rhai ni ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid, ac y rhoes hefyd i’r rhai oedd gydag ef?”
27
Ac meddai wrthynt, “Y Sabath a wnaethpwyd er mwyn y dyn, ac nid y dyn er mwyn y Sabath;
28
ac felly arglwydd yw Mab y dyn hyd yn oed ar y Sabath.”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16