bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 5
Mark 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
A deuthant i’r ochr draw i’r môr i wlad y Geraseniaid.
2
Ac wedi ei ddyfod o’r llong, yn ebrwydd cyfarfu ag ef o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ganddo,
3
oedd a’i drigfan ymhlith y beddau; a hyd yn oed â chadwyn ni allai neb mwyach ei rwymo,
4
gan ddarfod ei rwymo lawer gwaith â llyffetheiriau ac â chadwynau, a dryllio ohono’r cadwynau, a malu’r llyffetheiriau; ac ni fedrai neb ei ddofi.
5
Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac yn y mynyddoedd yr oedd, yn gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig.
6
Ac wedi gweled yr Iesu o bell, rhedodd ac ymgrymodd iddo,
7
a chan weiddi â llef uchel, fe ddywed, “Beth sy rhyngof fi a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Tynghedaf di trwy Dduw, na phoenydia fi.”
8
Canys dywedai wrtho, “Dos allan, yr ysbryd aflan, o’r dyn.”
9
A gofynnai iddo, “Beth yw dy enw?” A dywed yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, canys llawer ydym.”
10
Ac erfyniai arno lawer nas gyrrai hwynt allan o’r wlad.
11
Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn pori;
12
ac erfyniasant arno gan ddywedyd, “Anfon ni i’r moch, fel yr elom i mewn iddynt hwy.”
13
A chaniataodd iddynt. Ac allan yr aeth yr ysbrydion aflan, ac i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr — tua dwy fil; a boddent yn y môr.
14
A’u porthwyr hwynt a ffodd, ac a’i mynegodd yn y ddinas ac yn y wlad; a deuthant i weled beth oedd yr helynt.
15
A deuant at yr Iesu, a sylwant ar y cythreulig yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll, hwnnw y buasai’r lleng ynddo; ac ofnasant.
16
Ac adroddodd y rhai a’i gwelsai wrthynt pa fodd y digwyddodd hi i’r cythreulig, ac am y moch.
17
A dechreuasant erfyn arno fynd ymaith o’u gororau hwynt.
18
Ac wrth iddo fynd i’r llong, erfyniai’r hwn a fuasai gythreulig arno am gael bod gydag ef.
19
Ac ni adodd iddo, eithr medd ef wrtho, “Dos adref at dy bobl, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot ac a dosturiodd wrthyt.”
20
Ac aeth ymaith, a dechreuodd gyhoeddi yn Necapolis pa faint a wnaethai’r Iesu erddo; a phawb a ryfeddai.
21
Ac wedi croesi o’r Iesu yn y llong drachefn i’r ochr arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd ef wrth y môr.
22
A daw un o’r archsynagogwyr, a’i enw Iairus, ac wrth ei weled, syrth wrth ei draed,
23
ac erfyn lawer arno, gan ddywedyd, “Fy merch fach sydd ar dranc; tyred, a dod dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi ac y bo byw.”
24
Ac aeth ymaith gydag ef. A chanlynai tyrfa fawr ef, a gwasgent arno.
25
A rhyw wraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd,
26
ac wedi dioddef llawer gan lawer o feddygon, a gwario’r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles, ond yn hytrach mynd yn waeth,
27
wedi clywed hanes yr Iesu, a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ol, ac a gyffyrddodd â’i fantell ef;
28
canys dywedai, “Os caf gyffwrdd hyd yn oed â’i ddillad ef, mi fyddaf iach.”
29
Ac yn y fan sychodd ffynhonnell ei gwaed, a gwybu hithau yn ei chorff ei hiacháu o’r pla.
30
Ac yn y fan yr Iesu, yn canfod ynddo’i hun i’r rhinwedd oedd ynddo fyned allan, a droes yn y dyrfa, ac meddai, “Pwy gyffyrddodd â’m dillad?”
31
Ac meddai ei ddisgyblion wrtho, “Ti weli’r dyrfa’n gwasgu arnat, a dywedi, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ”
32
A syllai o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn.
33
Ond y wraig, wedi brawychu ac yn crynu, yn gwybod beth a ddarfuasai iddi, a ddaeth, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd wrtho’r holl wir.
34
Dywedodd yntau wrthi, “Ferch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd, a bydd iach o’th bla.”
35
Ac ef eto’n llefaru, deuant o dŷ’r archsynagogydd dan ddywedyd, “Dy ferch a fu farw; i ba beth bellach y blini’r Athro?”
36
Ond yr Iesu, wedi digwydd clywed ohono lefaru’r gair, a ddywed wrth yr archsynagogydd, “Paid ag ofni; yn unig cred.”
37
Ac ni adodd i neb gyd-ganlyn ag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan brawd Iago.
38
A deuant i dŷ’r archsynagogydd, ac fe sylwa ar derfysg, a phobl yn wylofain ac yn udo llawer.
39
Ac aeth i mewn, a dywed wrthynt, “Paham y terfysgwch ac yr wylwch? Ni bu’r plentyn farw, eithr cysgu y mae.”
40
A gwatwarant ef. Y mae yntau’n bwrw pawb allan, ac yn cymryd tad y plentyn, a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac yn cyrchu i’r fan yr oedd y plentyn.
41
Ac wedi ymafael yn llaw’r plentyn fe ddywed wrthi, “Talitha cŵm,” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy ngeneth, dywedaf wrthyt, cyfod.”
42
Ac yn y fan cododd yr eneth, a dechreuodd gerdded; canys yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. A thrawyd hwynt yn ebrwydd â syndod mawr.
43
A gorchmynnodd lawer iddynt na châi neb wybod hyn, a dywedodd am roi iddi beth i’w fwyta.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16