bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 9
Mark 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Ac meddai wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, y mae rhai o’r rhai sydd yma’n sefyll na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
2
Ac ymhen chwe diwrnod cymer yr Iesu Bedr ac Iago ac Ioan, a dwg hwynt i fynydd uchel o’r neilltu wrthynt eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwynt,
3
a’i ddillad a aeth yn ddisglair, yn gannaid odiaeth, yn gyfryw ag na allai bannwr ar y ddaear eu cannu felly.
4
Ac ymddangosodd iddynt Elïas ynghyda Moses, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.
5
Ac atebodd Pedr, a dywed wrth yr Iesu, “Rabbi, da yw ein bod yma; a gwnawn dair pabell — i ti un, ac i Foses un, ac i Elïas un.”
6
Canys ni wyddai beth i’w ateb; canys ofn mawr a ddeuthai arnynt.
7
A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a daeth llef o’r cwmwl, “Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch arno ef.”
8
Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond yr Iesu’n unig gyda hwy eu hunain.
9
Ac wrth iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd, gorchmynnodd iddynt nad adroddent i neb yr hyn a welsent, onid wedi i Fab y dyn gyfodi o feirw.
10
A daliasant ar y gair, gan ymholi yn eu plith eu hunain, “Beth yw’r cyfodi o feirw?”
11
A gofynnent iddo gan ddywedyd, “Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?”
12
Meddai yntau wrthynt, “Elïas yn wir sy’n dyfod yn gyntaf, ac a adfer bob peth; a pha fodd y mae’n ysgrifenedig am Fab y dyn, ei fod i ddioddef llawer, ac i’w ddiystyru?
13
Eithr meddaf i chwi, y mae Elïas eisoes wedi dyfod, a gwnaethant iddo y pethau a fynnent, fel y mae’n ysgrifenedig amdano.”
14
A phan ddeuthant at y disgyblion, gwelsant dyrfa fawr o’u hamgylch hwynt, ac ysgrifenyddion yn dadleu â hwynt.
15
Ac yna’r holl dyrfa, pan welsant ef, a syfrdanwyd; a chan redeg ato cyfarchent well iddo.
16
A gofynnodd iddynt, “Beth a ddadleuwch â hwynt?”
17
Ac atebodd, un o’r dyrfa iddo, “Athro, mi ddygais fy mab atat, a chanddo ysbryd mud;
18
a pha le bynnag yr ymafaelo ynddo, fe’i hyrddia i lawr; ac y mae’n malu ewyn, ac yn rhincian ei ddannedd, ac yn gwywo; a dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac nis gallasant.”
19
Atebodd yntau iddynt, a dywed, “O, genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf, gyda chwi? Pa hyd y’ch goddefaf? Dygwch ef ataf fi.”
20
A dygasant ef ato. Ac wedi iddo’i weled, yn y fan dirdynnodd yr ysbryd ef, ac fe syrthiodd ar y llawr, ac ymdreiglai dan falu ewyn.
21
A gofynnodd yntau i’w dad ef, “Pa faint o amser sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “Er yn blentyn;
22
a llawer gwaith i dân y taflodd ef, ac i ddyfroedd, i’w ddifetha; eithr os gelli ddim tosturia wrthym, a chymorth ni.”
23
A dywedodd yr Iesu wrtho, “‘Os gelli’! Popeth a ellir i’r neb a gredo.”
24
Yna llefodd tad y plentyn, ac meddai, “Yr wyf yn credu; cymorth fy anghrediniaeth.”
25
A phan welodd yr Iesu fod torf yn rhedeg ynghyd yno, ceryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, “Yr ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo.”
26
Ac wedi llefain a’i ddirdynnu lawer, fe ddaeth allan; ac aeth ef megis celain, nes i’r lliaws ddywedyd “Bu farw.”
27
Ond yr Iesu a ymafaelodd yn ei law, ac a’i cododd; a safodd i fyny.
28
Ac wedi iddo fynd i’r tŷ, ei ddisgyblion o’r neilltu a ofynnai iddo; “Paham na allasom ni ei fwrw allan?”
29
A dywedodd wrthynt, “Y math hwn trwy ddim ni ellir ei fwrw allan ond trwy weddi.”
30
Ac oddiyno aethant allan, a thramwyent trwy Galilea; ac ni fynnai ef i neb wybod.
31
Canys dysgai ei ddisgyblion a dywedai wrthynt, “Traddodir Mab y dyn i ddwylo dynion, a lladdant ef; ac wedi ei ladd, ymhen tridiau fe atgyfyd.”
32
Ond ni ddeallent hwy’r ymadrodd, ac ofnent ei holi.
33
A deuthant i Gapernaum. Ac wedi dyfod i’r tŷ, fe ofynnai iddynt, “Am ba beth yr ymresymech ar y ffordd?”
34
Ond tewi a wnaent hwy; canys ymresymasent â’i gilydd ar y ffordd pwy oedd fwyaf.
35
Ac fe eisteddodd, a galwodd y deuddeg, ac eb ef wrthynt, “Os myn neb fod yn flaenaf, bydded o bawb yn olaf, ac i bawb yn was.”
36
Ac fe gymerth blentyn bach, a gosododd ef yn eu canol hwynt; ac wedi ei gymryd yn ei freichiau, dywedodd wrthynt,
37
“Pwy bynnag a dderbynio un o’r plant bach yma yn fy enw i, myfi a dderbyn; a phwy bynnag a’m derbynio i, nid myfi a dderbyn, ond yr hwn a’m hanfonodd.”
38
Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a gwaharddem ef am nad oedd yn ein canlyn ni.”
39
Ond yr Iesu a ddywedodd, “Peidiwch a’i wahardd; canys nid oes neb a wnêl rymuster yn fy enw, ac a all yn fuan roi drygair imi.
40
Canys y neb nid yw i’n herbyn, drosom y mae.
41
Canys pwy bynnag a ro i’w yfed i chwi gwpanaid o ddŵr o achos mai eiddo Crist ydych, yn wir meddaf i chwi, ni chyll mo’i obrwy.
42
A phwy bynnag a faglo un o’r rhai bychain hyn sy’n credu, gwell fyddai iddo fod â maen melin mawr ynghrog am ei wddf, ac wedi ei daflu i’r môr.
43
Ac os magla dy law dydi, tor hi ymaith; gwell yw dy fyned i mewn yn anafus i’r bywyd nag â’th ddwy law gennyt fyned ymaith i Gehenna, i’r tân anniffoddadwy.
45
Ac os dy droed a’th fagla, tor ef ymaith; gwell yw dy fyned i mewn i’r bywyd yn gloff nag â’th ddau droed gennyt dy daflu i Gehenna.
47
Ac os dy lygad a’th fagla, bwrw ef allan; gwell yw dy fyned i mewn yn unllygeidiog i deyrnas Dduw nag â dau lygad gennyt dy daflu i Gehenna,
48
lle nid yw eu pryf yn marw, na’r tân yn diffodd.
49
Canys pob un a helltir â thân.
50
Da yw’r halen; ond od â’r halen yn ddi-hallt, a pha beth y cyweiriwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch mewn heddwch bawb a’i gilydd.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16