bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 3
Mark 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
Ac aeth drachefn i synagog, ac yr oedd yno ddyn a’i law wedi gwywo;
2
a gwylient ef, a fyddai iddo ei iacháu ar y Sabath, fel y cyhuddent ef.
3
Ac eb ef wrth y dyn a’r llaw wywedig, “Cyfod i’r canol.”
4
Ac eb ef wrthynt hwy, “A ddylid ar y Sabath wneuthur da, ai gwneuthur drwg? achub einioes, ai lladd?” Ond tewi a wnaent hwy.
5
Ac wedi syllu ogylch arnynt yn ddigllon, gan ddwys-ofidio am ddallineb eu calon hwynt, fe ddywed wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd ei law.
6
Ac aeth y Phariseaid allan, ac yn ebrwydd ymgynghorent â’r Herodianiaid yn ei erbyn, pa fodd y difethent ef.
7
A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr; a lliaws mawr o Galilea a’i dilynodd;
8
ac o Iwdea ac o Gaersalem ac Idwmea a thu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, yn clywed gymaint a wnai, a ddaeth ato.
9
A dywedodd wrth ei ddisgyblion am i gwch fod yn barod iddo oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu.
10
Canys llawer a iachasai ef, nes ymwthio ato i gyffwrdd ag ef bawb oedd dan blâu.
11
A’r ysbrydion aflan, pa bryd bynnag y gwelent ef, syrthient ger ei fron, a gwaeddent, gan ddywedyd, “Ti yw Mab Duw.”
12
A rhybuddiai lawer arnynt nas amlygent ef.
13
Ac fe esgyn i’r mynydd, a geilw ato y rhai a fynnai ef, ac aethant allan ato.
14
A phenododd ddeuddeg i fod gydag ef, ac iddo’u danfon i bregethu,
15
ac i feddu awdurdod i fwrw allan y cythreuliaid;
16
a phenododd y deuddeg: Simon, ac iddo ef y rhoes yn enw Pedr;
17
ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes iddynt hwy yn enw Boanerges, hynny yw Meibion y Daran;
18
ac Andreas, a Phylip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Thadeus, a Simon y Selot,
19
ac Iwdas Iscariot, yr hwn a’i bradychodd ef.
20
A daw i’r tŷ; ac ymgynulla’r dyrfa drachefn, fel na allant gymaint â bwyta bara.
21
A phan glywodd ei berthynasau, aethant ymaith i’w ddal; canys dywedent, “Y mae wedi gwallgofi.”
22
A’r ysgrifenyddion a ddeuthai i lawr o Gaersalem a ddywedai, “Beelsebwl sydd ganddo”; a hefyd, “trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
23
A galwodd hwynt ato, a dywedai wrthynt ar ddamhegion, “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?”
24
ac, “Os teyrnas a ymranna yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll;
25
ac os teulu a ymranna yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y teulu hwnnw sefyll.
26
Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac ymrannu, ni ddichon sefyll, eithr dyna ddiwedd arno.
27
Eithr ni ddichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio’i ddodrefn ef, oni rwymo’r cadarn yn gyntaf, ac yna’r ysbeilia’i dŷ ef.
28
Yn wir, meddaf i chwi, popeth a faddeuir i blant dynion, y pechodau a’r cableddau, pa bethau bynnag a gablont;
29
ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr euog ydyw o dragwyddol bechod.”
30
Canys dywedent, “Ysbryd aflan sydd ganddo.”
31
A daw ei fam a’i frodyr, a chan sefyll oddi allan, anfonasant ato i alw arno.
32
Ac eisteddai torf o’i gylch, a dywedant wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr oddi allan yn dy geisio.”
33
A chan ateb fe ddywed wrthynt, “Pwy yw fy mam a’m brodyr?”
34
A chan syllu o amgylch ar y rhai a eisteddai’n gylch o’i gwmpas, fe ddywed, “Dyma fy mam a’m brodyr.
35
Pwy bynnag a wnêl ewyllys Duw, hwnnw sy frawd i mi, a chwaer, a mam.”
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16