bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 14
Mark 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Ac yr oedd y pasg a gŵyl y bara croyw ymhen deuddydd. A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion pa fodd trwy ddichell i gael gafael arno, a’i ladd.
2
Canys dywedent, “Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.”
3
A phan oedd ef ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus yn lledorwedd i fwyta, fe ddaeth gwraig a chanddi flwch o ennaint nard pur drudfawr, a thorri’r blwch, a’i dywallt ar ei ben ef.
4
Ond yr oedd rhai yn ddigllon yn eu plith eu hunain, “I ba beth y bu’r golled hon o’r ennaint?
5
Canys gallasid gwerthu’r ennaint hwn am fwy na thri chan swllt, a’u rhoi i’r tlodion.” A chwyrnent arni.
6
Ond yr Iesu a ddywedodd, “Gedwch iddi. Paham y perwch flinder iddi? Gweithred hardd a wnaeth hi arnaf fi.
7
Canys bob amser y mae gennych y tlodion gyda chwi, a phan fynnoch gellwch wneuthur daioni iddynt hwy; ond myfi, nid oes gennych monof bob amser.
8
A allodd hi, a wnaeth; hi achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
9
Ac yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr efengyl yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er cof amdani.”
10
Ac Iwdas Iscariot, yn un o’r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid i’w fradychu ef iddynt.
11
Hwythau pan glywsant, bu lawen ganddynt; ac addawsant roi arian iddo. A cheisiai yntau pa fodd y câi gyfle i’w fradychu.
12
A’r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan laddent oen y pasg, fe ddywed ei ddisgyblion wrtho, “Pa le y mynni i ni fynd i baratoi i ti i fwyta’r pasg?”
13
Ac fe enfyn ddau o’i ddisgyblion, ac eb ef wrthynt, “Ewch i’r ddinas, ac fe gyferfydd â chwi ddyn yn cario ystên o ddŵr; dilynwch ef,
14
a pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ fod yr Athro’n dywedyd, ‘Pa le mae fy llety lle bwytawyf y pasg gyda’m disgyblion?’
15
A dengys ef i chwi lofft fawr wedi ei threfnu’n barod; ac yno paratowch i ni.”
16
Ac aeth y disgyblion ymaith, a deuthant i’r ddinas, a chawsant fel y dywedasai ef wrthynt, a pharatoesant y pasg.
17
Ac wedi iddi hwyrhau fe ddaw yntau gyda’r deuddeg.
18
Ac â hwynt yn lledorwedd ac yn bwyta, dywedodd yr Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, un ohonoch chwi a’m bradycha i — un sy’n bwyta gyda mi.”
19
Dechreuasant ymofidio, a dywedyd wrtho y naill ar ol y llall, “Nid myfi?”
20
Dywedodd yntau wrthynt, “Un o’r deuddeg, un sy’n gwlychu gyda mi yn yr un ddysgl.
21
Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano; ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai iddo pe na anesid y dyn hwnnw.”
22
Ac wrth iddynt fwyta, fe gymerth fara, ac wedi bendithio, torrodd ef, a rhoddes iddynt; a dywedodd, “Cymerwch; hwn yw fy nghorff.”
23
Ac fe gymerth gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddes iddynt, ac yfasant bawb ohono.
24
Ac fe ddywedodd wrthynt, “Hwn yw fy ngwaed cyfamod, a dywelltir dros lawer.
25
Yn wir meddaf i chwi, nid yfaf byth mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.”
26
Ac wedi iddynt ganu emyn, aethant allan i fynydd yr Olewydd.
27
A dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch meglir oll, canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a’r defaid a wasgerir.
28
Eithr wedi i mi gyfodi, mi âf o’ch blaen i Galilea.”
29
Ond Pedr a ddywedodd wrtho, “Os hyd yn oed pawb a feglir, eto nid myfi.”
30
Ac medd yr Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, tydi heddyw, y noson hon, cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, a’m gwedi deirgwaith.”
31
Ond mwy o lawer y dywedai yntau, “Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni’th wadaf byth.” A’r un modd y dywedent oll.
32
A deuant i le o’r enw Gethsemane; ac eb ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra fwyf yn gweddïo.”
33
Ac fe gymer Bedr ac Iago ac Ioan gydag ef; a dechreuodd arswydo ac ymgythryblu;
34
ac medd ef wrthynt, “Athrist yw fy enaid hyd angeu; arhoswch yma, a gwyliwch.”
35
Ac wedi myned rhagddo ychydig, fe syrthiai ar y ddaear, a gweddïai, o bai bosibl, ar fyned yr awr heibio oddiwrtho;
36
ac meddai, “Abba Dad, popeth sy bosibl i ti; tro heibio’r cwpan hwn oddiwrthyf; eithr nid a fynnaf fi, ond a fynni di,”
37
Ac fe ddaw, a’u cael hwynt yn cysgu; ac medd ef wrth Bedr, “Simon, ai cysgu’r wyt ti? Oni ellaist wylio un awr?
38
Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned i demtasiwn. Yr ysbryd yn wir sydd eiddgar, ond y cnawd sydd wan.”
39
A thrachefn fe aeth ymaith, a gweddïodd gan ddywedyd yr un ymadrodd.
40
A thrachefn fe ddaeth, a’u cael hwynt yn cysgu, canys yr oedd eu llygaid yn swrthdrwm; ac ni wyddent beth i’w ateb iddo.
41
Ac fe ddaw y drydedd waith, ac medd ef wrthynt, “Cysgwch bellach a gorffwyswch; digon yw; daeth yr awr; dyma fradychu Mab y dyn i ddwylo’r pechaduriaid.
42
Codwch, awn; dyma fy mradychwr yn ymyl.”
43
Ac yn y fan, ac ef eto’n llefaru, ymddengys Iwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa â chleddyfau a ffyn, oddiwrth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid.
44
A rhoesai ei fradychwr arwydd iddynt, gan ddywedyd, “Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymaith yn ddiogel.”
45
Ac fe ddaeth, ac yn y fan aeth ato, ac eb ef, “Rabbi,” ac fe’i cusanodd ef.
46
Rhoesant hwythau eu dwylo arno, a gafaelasant ynddo.
47
Ond rhywun o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw a dynnodd ei gleddyf ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorres ymaith ei glust ef.
48
Ac atebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Ai fel at leidr y deuthoch allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal?
49
Beunydd yr oeddwn yn eich plith yn y deml yn dysgu, ac ni afaelasoch ynof; eithr cyflawner yr ysgrythyrau.”
50
A gadawsant ef, a ffoesant oll.
51
Ac yr oedd rhyw ddyn ieuanc yn ei ganlyn ef ag amdano lenllïain ar ei gorff noeth, a gafaelant ynddo;
52
gadawodd yntau’r llenllïain, ac yn noeth y ffoes.
53
A dygasant yr Iesu at yr archoffeiriad; ac fe ymgynnull yr holl archoffeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion.
54
A Phedr o bell a’i dilynodd ef hyd i mewn i neuadd yr archoffeiriad; ac yr oedd yn cydeistedd â’r gwasanaethyddion, ac yn ymdwymo wrth y tân.
55
A cheisiai’r archoffeiriaid a’r holl Sanhedrin dystiolaeth yn ei erbyn i’w roi i farwolaeth, ac nis caent;
56
canys llawer a gam-dystiai yn erbyn yr Iesu, ond nid oedd y tystiolaethau’n gyson.
57
A chododd rhywrai, a chamdystient yn ei erbyn gan ddywedyd,
58
“Clywsom ni ef yn dywedyd, ‘Mi ddymchwelaf y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall nid o waith llaw.’ ”
59
Ond felly chwaith nid oedd eu tystiolaeth yn gyson.
60
A chododd yr archoffeiriad yn y canol, a holodd yr Iesu gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Beth a dystia’r rhain i’th erbyn?”
61
Tawai yntau, ac nid atebodd ddim. Drachefn holai’r archoffeiriad ef, ac medd wrtho, “Ai ti yw’r Crist, mab y Bendigedig?”
62
A dywedodd yr Iesu, “Myfi yw; a chewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod gyda chymylau’r nef.”
63
A rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, ac eb ef, “Pa raid i ni mwy wrth dystion?
64
Chwi glywsoch y cabledd; beth debygwch chwi?” Hwythau oll a roes farn yn ei erbyn ei fod yn haeddu marw.
65
A dechreuodd rhai boeri arno, a mygydu ei wyneb, a’i gernodio, a dywedyd wrtho, “Proffwyda!” A’r gwasanaethyddion a’i derbyniodd ef â dyrnodiau.
66
Ac â Phedr islaw yn y neuadd fe ddaw un o forynion yr archoffeiriad,
67
ac wrth weled Pedr yn ymdwymo, hi edrychodd arno, ac medd hi, “Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread Iesu.”
68
Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Ni wn i, ac nid wyf yn deall beth a ddywedi.” Ac fe aeth allan i’r cyntedd;
69
a’r forwyn, wrth ei weled ef, a ddechreuodd drachefn ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, “Y mae hwn yn un ohonynt.”
70
Yntau drachefn a wadai. Ac ymhen ychydig drachefn, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedai wrth Bedr, “Yn wir, un ohonynt wyt; achos Galilead wyt.”
71
Dechreuodd yntau felltithio, a thyngu, “Nid adwaen i mo’r dyn hwn y soniwch amdano.”
72
Ac yn y fan canodd y ceiliog yr ail waith. A chofiodd Pedr yr ymadrodd, fel y dywedodd yr Iesu wrtho, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith y’m gwedi deirgwaith”; ac ymollyngodd i wylo.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16