bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 16
Mark 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Ac wedi i’r Sabath fynd heibio prynodd Mair o Fagdala, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau i fynd i’w eneinio ef.
2
Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos deuant at y bedd, a’r haul wedi codi.
3
Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla ymaith i ni y maen o ddrws y bedd?”
4
Ond erbyn codi eu golwg, sylwant fod y maen wedi ei dreiglo’n ol — yr oedd yn un mawr anferth.
5
Ac wedi mynd i mewn i’r bedd gwelsant ddyn ieuanc yn eistedd ar y ddeheu, ag amdano wisg wenllaes, ac arswydasant.
6
Medd yntau wrthynt, “Nac arswydwch; Iesu a geisiwch, y Nasaread croeshoeliedig; fe gyfododd; nid yw yma; dyma’r fan y dodasant ef.
7
Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn myned o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ”
8
Ac aethant allan, a ffoesant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt ddychryn a syfrdandod. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys ofnent —
9
Ac wedi cyfodi ohono yn fore y dydd cyntaf o’r wythnos, fe ymddangosodd gyntaf i Fair o Fagdala, y bwriasai ohoni saith o gythreuliaid.
10
Aeth honno, a mynegodd i’r rhai a fuasai gydag ef, a hwy’n galaru ac yn wylofain;
11
a’r rheini pan glywsant ei fod yn fyw, a’i weled ganddi, a anghredasant.
12
Ac wedi hynny i ddau ohonynt yr ymddangosodd mewn ffurf arall, a hwy yn cerdded ar eu ffordd i’r wlad;
13
ac aeth y rheini ymaith, a mynegasant i’r gweddill; ond i’r rheini chwaith ni chredasant.
14
Ac yn ddiweddarach fe ymddangosodd i’r un-ar-ddeg, a hwythau ar bryd bwyd, ac edliwiodd iddynt eu hanghrediniaeth a’u cyndynrwydd, am na chredasent i’r rhai a’i gwelsai wedi cyfodi.
15
A dywedodd wrthynt, “Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
16
Y neb a gredo ac a fedyddier a achubir; ond y neb ni chredo a gondemnir.
17
Ac yn arwyddion, y pethau hyn a ddilyn i’r rhai a gredo: yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; â thafodau newyddion y llefarant;
18
mewn seirff y gafaelant; ac os yfant beth marwol nis niweidia hwynt ddim; ar gleifion y dodant ddwylo, ac iach fyddant.”
19
Ac felly’r Arglwydd Iesu, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.
20
Aethant hwythau allan, a phregethasant ym mhobman, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion a ddilynai. Ond y cwbl a orchmynnwyd iddynt a fynegasant ar fyr eiriau i Bedr a’r rhai oedd gydag ef. Ac wedi hynny yr Iesu ei hunan a anfonodd trwyddynt hwy, o ddwyrain hyd orllewin, santaidd ac anllygradwy genadwri’r dragwyddol iechydwriaeth.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16