bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 7
Mark 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ac ymgasgla ato’r Phariseaid a rhai o’r ysgrifenyddion a ddeuthai o Gaersalem.
2
Ac wedi iddynt weled rhai o’i ddisgyblion ef, mai â dwylo cyffredin, hynny yw heb eu golchi, y bwytaent eu bara,
3
— canys y Phariseaid a’r holl Iddewon, heb olchi eu dwylo’n ddyfal ni fwytânt, gan ddal traddodiad yr hynafiaid;
4
a dim o’r farchnad heb iddynt ei daenellu nis bwytânt; a llawer o bethau eraill y sydd, a dderbyniasant i’w dal, golchi cwpanau a godardau a llestri pres, —
5
ac fe ofyn y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, “Paham na rodia dy ddisgyblion di yn ol traddodiad yr hynafiaid, yn lle bwyta’u bara â dwylo cyffredin?”
6
Dywedodd yntau wrthynt, “Gwych y proffwydodd Esaias amdanoch chwi’r rhagrithwyr, fel y mae’n ysgrifenedig, Y bobl hyn â’u gwefusau a’m hanrhydedda, ond eu calon sydd bell oddiwrthyf;
7
ond yn ofer y’m haddolant gan ddysgu fel athrawiaethau osodiadau dynion.
8
Gollwng yr ydych orchymyn Duw, a dal traddodiad dynion.”
9
Ac meddai wrthynt, “Gwych y gwrthodwch orchymyn Duw fel y cadwoch eich traddodiad chwi.
10
Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam, ac A felltithio dad neu fam bydded farw’n gelain.
11
Ond chwi a ddywedwch, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam ‘Corbân, sef Offrwm, yw hynny o fudd a gawsit gennyf fi,’
12
mwyach ni edwch iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam,
13
gan ddirymu gair Duw trwy eich traddodiad a draddodasoch. A chyffelyb bethau o’r fath, lawer, a wnewch.”
14
Ac wedi galw ato drachefn y dyrfa, meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf bawb, a deellwch.
15
Nid oes dim oddi allan i’r dyn yn mynd i mewn iddo a ddichon ei halogi; eithr y pethau sy’n dyfod allan o’r dyn yw’r pethau sy’n halogi’r dyn.”
17
A phan aeth i’r tŷ oddiwrth y dyrfa, gofynnai ei ddisgyblion iddo am y ddameg.
18
Ac medd ef wrthynt, “Felly, ydych chwithau’n ddi-ddeall? Oni welwch na ddichon dim oddi allan sy’n mynd i mewn i’r dyn ei halogi,
19
am nad â i mewn i’w galon ef, ond i’w gylla, ac allan i’r geudy?” — gan gyhoeddi’n lân bob bwydydd.
20
Ac meddai, “Y peth sy’n dyfod allan o’r dyn, hwnnw a haloga’r dyn.
21
Canys o’r tu mewn o galon dynion y daw allan ystrywiau drwg, anniweirdeb, lladradau, llofruddiaethau,
22
godinebau, trachwantau, anfadrwydd, dichell, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchter, ynfydrwydd;
23
yr holl ddrygau hyn, o’r tu mewn y deuant allan, a halogi’r dyn.”
24
Ac oddiyno cododd, ac aeth ymaith i ororau Tyrus. Ac aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni allodd ymguddio.
25
Eithr yn ebrwydd clywodd gwraig amdano, a chan ei merch fach ysbryd aflan; a hi ddaeth, a syrthiodd wrth ei draed;
26
a’r wraig oedd Roeges, Syropheniciad o genedl; a gofynnai iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch.
27
Ac meddai ef wrthi, “Gad yn gyntaf ddiwallu’r plant; canys nid teg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r corgwn.”
28
Atebodd hithau, ac medd wrtho, “Ië, Syr; ac eto y mae’r corgwn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.”
29
A dywedodd ef wrthi, “Am y gair yna dos, fe aeth y cythraul allan o’th ferch.”
30
Ac aeth hithau adref, a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a’r cythraul wedi mynd allan.
31
A thrachefn aeth ef ymaith o ororau Tyrus, a daeth drwy Sidon hyd fôr Galilea yng nghanol gororau Decapolis.
32
A dygant ato un byddar a diffyg ar ei barabl, ac erfyniant arno ddodi arno’i law.
33
Ac wedi iddo fynd ag ef oddiwrth y dyrfa ar ei ben ei hun, fe roes ei fysedd yn ei glustiau ef; ac wedi poeri fe gyffyrddodd â’i dafod ef;
34
ac edrychodd i fyny i’r nef, ac ocheneidiodd; ac medd wrtho, “Ephphatha,” hynny yw, “Agorer di.”
35
Ac agorwyd ei glustiau ef, ac yn y fan datodwyd rhwym ei dafod, a llefarai’n groyw.
36
A gorchmynnodd iddynt na ddywedent wrth neb; ond pa faint bynnag a orchmynnai ef iddynt, mwy o lawer y cyhoeddent hwythau.
37
A mwy na mwy y synnent, gan ddywedyd, “Gwych y gwnaeth ef bopeth; fe wna hyd yn oed i’r byddariaid glywed, ac i fudion lefaru.”
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16