bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 13
Mark 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
1
Ac wrth iddo fynd allan o’r deml, fe ddywed un o’i ddisgyblion wrtho, “Athro, gwêl y fath feini, a’r fath adeiladau!”
2
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Weli di’r adeiladau mawr yma? Ni adewir maen ar faen a’r nis dymchwelir.”
3
Ac fel yr eisteddai ef ar fynydd yr Olewydd gyferbyn â’r deml, gofynnai Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo o’r neilltu,
4
“Dywed wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddyfod i ben.”
5
A dechreuodd yr Iesu ddywedyd wrthynt, “Edrychwch na bo i neb eich twyllo.
6
Llawer a ddaw yn fy enw i gan ddywedyd ‘Myfi yw’; a llawer a dwyllant.
7
A phan glywoch am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd, na chyffrowch; rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto.
8
Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynfâu mewn mannau, bydd newynau;
9
dechreu gwewyr fydd hyn. Ond edrychwch chwi atoch eich hunain; traddodant chwi i gynghorau, ac mewn synagogau y’ch ffrewyllir, a cherbron llywodraethwyr a brenhinoedd y’ch gosodir o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt.
10
Ac i’r holl genhedloedd yn gyntaf rhaid cyhoeddi’r efengyl.
11
A phan ddygant chwi i’ch traddodi, na phryderwch rhag llaw beth a ddywedoch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, dywedwch hynny; canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, eithr yr Ysbryd Glân.
12
A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a’u lladd;
13
a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i; ond y neb a ddeil i’r diwedd, hwnnw a achubir.
14
Ond pan weloch ffieiddbeth y difrod yn sefyll lle ni ddylai (a ddarlleno, ystyried), yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd;
15
y neb a fo ar ben y tŷ na ddisgynned, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ;
16
a’r neb a fo yn y maes na throed yn ei ol i gymryd ei fantell.
17
Ond gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny!
18
Ond gweddïwch na ddelo yn y gaeaf;
19
canys bydd y dyddiau hynny’n orthrymder na bu ei gyffelyb o ddechreu’r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac ni bydd byth.
20
Ac oni bai i’r Arglwydd fyrhau’r dyddiau, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.
21
A’r pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Wel’di yma’r Crist — wel’di acw,’ na chredwch;
22
canys cyfyd gau-gristiau a gau-broffwydi, a gwnant arwyddion a rhyfeddodau i dwyllo, o bydd modd, yr etholedigion.
23
Ond edrychwch chwi; rhagfynegais i chwi bopeth.
24
Eithr yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder, hwnnw, yr haul a dywyllir, a’r lloer ni rydd ei llewych,
25
a’r sêr a fydd yn syrthio o’r nef, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a ysgydwir.
26
Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cymylau gyda gallu mawr a gogoniant.
27
Ac yna’r enfyn ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf daear hyd eithaf nef.
28
Ond oddiwrth y ffigyswydden dysgwch y ddameg: wedi’r êl ei changen weithian yn ir, ac y taflo ddail, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;
29
felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drws.
30
Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon heibio ddim hyd oni ddigwyddo hyn oll.
31
Y nef a’r ddaear a â heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio.
32
Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, ond y Tad.
33
Edrychwch, byddwch effro; canys ni wyddoch pa bryd y mae’r amser.
34
Fel dyn oddicartref a adawodd ei dŷ, ac a roes i’w weision yr awdurdod, i bob un ei waith; ac i’r porthor y gorchmynnodd wylio.
35
Gwyliwch gan hynny, canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai’r hwyr, ai hanner nos, ai’r plygain, ai’r bore;
36
rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu.
37
A’r hyn a ddywedaf wrthych chwi a ddywedaf wrth bawb, ‘Gwyliwch.’ ”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16