bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 6
Mark 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
Ac aeth ymaith oddiyno, a daw i’w hen gynefin, a’i ganlyn a wna’i ddisgyblion.
2
Ac wedi dyfod dydd Sabath dechreuodd ddysgu yn y synagog; a’r lliaws wrth wrando a synnai, gan ddywedyd, “O ba le y daeth i hwn y pethau hyn? A pha beth yw’r ddoethineb a roed i hwn, a’r fath rymusterau a wneir trwy ei ddwylo?
3
Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago ac Ioses ac Iwdas a Simon? Ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?” A meglid hwynt ynddo.
4
Ac meddai’r Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin, ac ymhlith ei geraint, ac yn ei gartref.”
5
Ac ni allai yno wneuthur dim grymuster ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu.
6
A rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth. Ac âi o amgylch ogylch y pentrefi dan ddysgu.
7
A geilw ato’r deuddeg, a dechreuodd eu hanfon ddau a dau; a rhoddai awdurdod iddynt ar yr ysbrydion aflan;
8
a gorchmynnodd iddynt na chymerent ddim ar gyfer taith ond ffon yn unig, na bara, na chod, na phres yn y gwregys,
9
eithr â sandalau am eu traed, ac na wisgent ddwy grysbais.
10
Ac meddai wrthynt, “Pa le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch o’r lle hwnnw;
11
a pha fan bynnag ni’ch derbynio, ac ni wrandawont arnoch, wrth ymadael oddiyno ysgydwch ymaith y llwch a fo dan eich traed er tystiolaeth iddynt.”
12
Ac aethant allan, a phregethasant ar iddynt edifarhau;
13
a chythreuliaid lawer a fwrient allan, ac irent ag olew lawer o gleifion, a’u hiacháu hwynt.
14
A chlywodd y brenin Herod, canys deuthai ei enw ef yn hysbys; a dywedent, “Ioan Fedyddiwr sy wedi cyfodi o feirw, ac am hynny y gweithia’r grymusterau ynddo.”
15
Eraill a ddywedai, “Elïas ydyw”; ond eraill a ddywedai, “Proffwyd fel un o’r proffwydi.”
16
Ond pan glywodd Herod fe ddywedai, “Y gŵr y torrais i ei ben, Ioan, hwnnw a gyfododd.”
17
Canys Herod ei hun a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a’i rwymo yng ngharchar o achos Herodias gwraig Phylip ei frawd, am iddo’i phriodi.
18
Canys dywedai Ioan wrth Herod, “Ni ddylai fod gennyt wraig dy frawd.”
19
A Herodias oedd yn ddig wrtho, ac yn ewyllysio’i ladd; ac nis gallai.
20
Canys Herod a ofnai Ioan, yn gwybod ei fod yn ŵr cyfiawn a santaidd, ac fe’i noddai; ac wrth ei glywed petrusai lawer, eto hoffai wrando arno.
21
Ac wedi dyfod diwrnod gŵyl, pan wnaeth Herod ar ei ben-blwydd wledd i’w arglwyddi ac i’r cadfridogion ac i oreugwyr Galilea,
22
ac wedi i ferch Herodias ei hun ddyfod i mewn a dawnsio, hi foddhaodd Herod a’i gyd-gyfeddachwyr. A’r brenin a ddywedodd wrth yr eneth, “Gofyn gennyf a fynnych, a rhoddaf iti.”
23
A thyngodd wrthi, “Beth bynnag a ofynnych rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas.”
24
Ac aeth hithau allan, a dywedodd wrth ei mam, “Beth a ofynnaf?” A dywedodd honno, “Pen Ioan Fedyddiwr.”
25
Ac aeth hithau i mewn yn y fan ar ffrwst at y brenin, a gofynnodd gan ddywedyd, “Mynnaf iti’n ddioed roi i mi ar ddysgl ben Ioan Fedyddiwr.”
26
A dwys-dristaodd y brenin, ond oherwydd y llwon a’r cyfeddachwyr nid ewyllysiodd dorri ei air iddi.
27
Ac yna anfonodd y brenin un o’i osgordd, a gorchmynnodd ddwyn ei ben ef. Ac fe aeth, a thorrodd ei ben ef yn y carchar,
28
a dug ei ben ef ar ddysgl, a rhoes ef i’r eneth; a’r eneth a’i rhoes i’w mam.
29
A chlywodd ei ddisgyblion; a deuthant a chymerasant ei gorff ef, a’i ddodi mewn bedd.
30
Ac ymgasgla’r apostolion at yr Iesu, a mynegasant iddo’r holl bethau a wnaethent ac a ddysgasent.
31
Ac medd ef wrthynt, “Dowch eich hunain o’r neilltu i le anghyfannedd, a gorffwyswch dipyn.” Canys yr oedd y rhai oedd yn mynd ac yn dyfod yn llawer, ac ni chaent egwyl hyd yn oed i fwyta.
32
Ac aethant ymaith yn y llong i le anghyfannedd o’r neilltu.
33
A gwelwyd hwynt yn myned, ac adnabu llawer hwynt; ac ar eu traed o’r holl ddinasoedd y rhedasant ynghyd yno, a chael y blaen arnynt.
34
Ac wedi iddo ddyfod allan gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer.
35
Ac yn awr wedi iddi fynd ymhell ar y dydd, daeth ei ddisgyblion ato, ac meddent, “Anghyfannedd yw’r lle, ac yn awr y mae hi ymhell ar y dydd;
36
gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad a’r pentrefydd oddiamgylch, ac y prynont iddynt eu hunain rywbeth i’w fwyta.”
37
Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Ac meddant wrtho, “A awn ni i brynu gwerth dau can swllt o fara, a’i roi iddynt i’w fwyta?”
38
Dywed yntau wrthynt, “Pa sawl torth sy gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedant, “Pump, a dau bysgodyn.”
39
A gorchmynnodd iddynt ar i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt.
40
Ac eisteddasant yn welyau, fesur cant ac fesur hanner cant.
41
A chymerth ef y pum torth a’r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau, a rhoddai hwynt i’r disgyblion i’w gosod o’u blaen hwynt; a’r ddau bysgodyn a rannodd ef rhwng pawb.
42
A bwytasant oll, a diwallwyd hwynt.
43
A chodasant ddarnau lond deuddeg basged, a pheth o’r pysgod.
44
Ac yr oedd y rhai a fwytasai’r torthau yn bum mil o wŷr.
45
Ac yna parodd i’w ddisgyblion fynd i’r llong, a mynd ymlaen i’r ochr arall tua Bethsaida, tra gollyngai ef y dyrfa.
46
Ac wedi canu’n iach iddynt, aeth ymaith i’r mynydd i weddïo.
47
Ac wedi iddi hwyrhau yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.
48
Ac wrth eu gweled hwynt mewn helbul yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, tua’r bedwaredd wylfa o’r nos fe ddaw atynt dan gerdded ar y môr; ac arofunai fyned heibio iddynt.
49
A hwythau yn ei weled yn cerdded ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a rhoesant waedd;
50
canys pawb a’i gwelodd, a chyffröwyd hwynt. Yntau yn y fan a ymddiddanodd â hwynt; ac medd ef wrthynt, “Codwch eich calon; myfi yw; peidiwch ag ofni.”
51
Ac aeth i fyny atynt i’r llong; a gostegodd y gwynt. A mawr dros ben y synnent ynddynt eu hunain;
52
canys ni ddeallasent ynglŷn â’r torthau, eithr yr oedd eu calon wedi ei dallu.
53
Ac wedi croesi hyd at y tir deuthant i Gennesaret, ac angorasant wrth y lan.
54
Ac wedi iddynt ddyfod allan o’r llong, yn ebrwydd adnabu’r bobl ef,
55
a rhedasant o amgylch trwy’r holl fro honno, a dechreuasant gludo’r cleifion o gwmpas ar eu gwelyau, pa le bynnag y clywent ei fod ef.
56
A pha le bynnag y cyrchai, — i’r pentrefydd, neu i’r dinasoedd, neu i’r wlad, — gosodent y rhai methedig yn y marchnadleoedd, ac erfynient arno am iddynt gael cyffwrdd pe na bai ond ag ymyl ei fantell; a chynifer ag a gyffyrddodd ag ef a iacheid.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16