bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 4
Mark 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
A thrachefn dechreuodd ddysgu ar lan y môr; ac ymgasgla ato dyrfa ddirfawr, nes iddo fynd i long, ac eistedd ynddi ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.
2
A dysgai iddynt lawer ar ddamhegion, a dywedai wrthynt yn ei ddysgeidiaeth,
3
“Gwrandewch: wele, fe aeth yr heuwr allan i hau.
4
A digwyddodd, wrth hau, i beth syrthio hyd y ffordd, a daeth yr adar, a’i ddifa.
5
Ac arall a syrthiodd ar y creigle, lle nid oedd iddo fawr ddaear; ac yn ebrwydd y tarddodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.
6
A phan gododd yr haul, fe’i deifiwyd; ac am nad oedd iddo wreiddyn, fe wywodd.
7
Ac arall a syrthiodd i’r drysi; a thyfodd y drysi, a’i dagu; a ffrwyth ni roes.
8
Ac eraill a syrthiodd i’r tir da; a rhoent ffrwyth yn dyfadwy a thoreithiog; a chnydient hyd ddeg-ar-hugain, a hyd drigain, a hyd gant.”
9
Ac meddai, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.”
10
A phan gafwyd ef wrtho’i hun, dechreuodd y rhai oedd o’i gylch gyda’r deuddeg ei holi am y damhegion.
11
Ac meddai wrthynt, “I chwi y rhodded cyfrinach teyrnas Dduw; ond i’r rhai acw sydd allan, ar ddamhegion y bydd y cwbl,
12
fel er gweled a gweled, na chanfyddont, ac er clywed a chlywed, na ddeallont, rhag ysgatfydd iddynt droi a maddeu iddynt.”
13
Ac eb ef wrthynt, “Ni wyddoch y ddameg hon! A pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14
Yr heuwr sydd yn hau’r gair.
15
Y rhain yw’r rhai hyd y ffordd lle’r heuir y gair, y rhai wedi y clywont, yn ebrwydd daw Satan, a dwg ymaith y gair a heuwyd ynddynt.
16
A’r rhain yr un modd yw’r rhai a heuir ar y creigleoedd, y rhai, wedi y clywont y gair, yn ebrwydd â llawenydd a’i derbyn ef;
17
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros ennyd y maent; yna pan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y meglir hwynt.
18
Ac eraill yw’r rhai a heuir yn y drysi; y rhain yw’r rhai a glywodd y gair,
19
a phryderon y byd, a hudoliaeth golud, a’r chwantau ynghylch y cyffelyb bethau, a ddaw i mewn, ac a dag y gair; a diffrwyth fydd.
20
A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ar y tir da, y rhai a glyw’r gair ac a’i derbyn; a dygant ffrwyth hyd ddeg-ar-hugain, a hyd dri gain, a hyd gant.”
21
Ac meddai wrthynt, “Tybed a ddaw’r gannwyll i’w dodi dan y celwrn neu dan y gwely? Onid i’w dodi ar y canhwyllbren?
22
Canys nid oes dim yn guddiedig onid i’w amlygu; ac ni bu ddirgel ond i ddyfod i’r amlwg.
23
Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.”
24
Ac meddai wrthynt, “Edrychwch beth a wrandewch. Â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwithau, a chwaneg a roddir i chwi.
25
Canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.”
26
Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw, fel y bwrw dyn yr had ar y ddaear,
27
a chysgu a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu y modd nis gŵyr ef.
28
Ohoni ei hun y dwg y ddaear ffrwyth, yn gyntaf eginyn, yna tywysen, yna yd llawn yn y dywysen.
29
Ond pan addfedo’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhy’r cryman ar waith, canys daeth y cynhaeaf.”
30
Ac meddai, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y rhown hi?
31
Fel i ronyn o had mwstard, yr hwn, wedi yr heuer ar y ddaear, er mai lleiaf yw o’r holl hadau sydd ar y ddaear,
32
eto wedi yr heuer ef, a dyf ac a ddaw’n fwyaf o’r holl lysiau, ac a ddwg ganghennau mawr, fel y gall adar y nefoedd nythu dan ei gysgod.”
33
Ac â llawer o’r fath ddamhegion y llefarai wrthynt y gair, yn ol fel y gallent wrando;
34
a heb ddameg ni lefarai wrthynt, ond ar ei ben ei hun i’w ddisgyblion ei hun fe eglurai bopeth.
35
Ac medd ef wrthynt y diwrnod hwnnw gyda’r nos, “Awn drosodd i’r ochr draw.”
36
Ac wedi iddynt ollwng y dyrfa, cymerant ef fel yr oedd yn y llong; a llongau eraill oedd gyda hi.
37
A chyfyd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau oedd yn lluchio i’r llong, nes bod y llong yn awr yn llenwi.
38
Ac ef oedd yn y pen ol ar y gobennydd yn cysgu; a dihunant ef, a dywedant wrtho, “Athro, ai difater gennyt ein colli ni?”
39
Ac fe ddeffrôdd, a cheryddodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, “Ust! taw!” A gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.
40
A dywedodd wrthynt hwy, “Paham yr ydych yn ofnus fel hyn? Pa fodd nad oes gennych ffydd?”
41
Ac ofnasant ag ofn mawr, a dywedent wrth ei gilydd, “Pwy tybed yw hwn, fod hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?”
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16