bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 15
Mark 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Ac yna’r bore, wedi i’r archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, sef yr holl Sanhedrin, ddarparu cyngor, rhwymasant yr Iesu, a dygasant ef ymaith, a’i draddodi i Bilat.
2
A gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw ‘Brenin yr Iddewon’?” Atebodd yntau a dywed wrtho, “Ti sy’n dywedyd.”
3
A chyhuddai’r archoffeiriaid ef o lawer o bethau.
4
A Philat drachefn a ofynnai iddo, gan ddywedyd, “Onid atebi ddim? Gwêl o ba faint o bethau y’th gyhuddant.”
5
Ond yr Iesu nid atebodd mwyach ddim, nes rhyfeddu o Bilat.
6
Ac ar bryd gŵyl fe ryddhâi iddynt un carcharor a ddeisyfent ganddo.
7
Ac yr oedd un a elwid Barabbas yn rhwym gyda’r gwrthryfelwyr — rhai a wnaethai lofruddiaeth yn y gwrthryfel.
8
A daeth y dorf i fyny, a dechreu gofyn iddo wneuthur fel yr arferai iddynt.
9
Ac atebodd Pilat hwynt gan ddywedyd, “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?”
10
Canys fe wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.
11
Ond cynhyrfodd yr archoffeiriaid y dorf, er cael ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
12
Ond atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â’r un a elwch yn Frenin yr Iddewon?”
13
A thrachefn gwaeddasant hwythau, “Croeshoelia ef.”
14
Ond dywedai Pilat wrthynt, “Eithr pa ddrwg a wnaeth ef?” Hwythau mwyfwy y gwaeddasant, “Croeshoelia ef.”
15
A Philat yn dymuno rhyngu bodd i’r dyrfa, a ryddhaodd iddynt Farabbas, ac a draddododd yr Iesu, wedi ei ffrewyllu, i’w groeshoelio.
16
A dug y milwyr ef ymaith i’r neuadd, sef y Praetoriwm; a galwant ynghyd yr holl fintai.
17
A gwisgant ef â phorffor, a dodant am ei ben goron ddrain a blethasent;
18
a dechreuasant gyfarch iddo, “Henffych well, Brenin yr Iddewon!”
19
A churent ei ben â gwialen, a phoerent arno, a chan blygu eu gliniau ymgryment iddo.
20
Ac wedi iddynt ei watwar, diosgasant y porffor oddi amdano, a gwisgasant ef â’i ddillad ei hun; a dygant ef ymaith i’w groeshoelio.
21
A gorfodant un yn myned heibio, Simon o Gyrene, ar ei ffordd o’r wlad, tad Alexander a Rwffws, i gymryd ei groes ef.
22
A dygant ef i’r lle Golgotha, hynny yw o’i gyfieithu lle Penglog.
23
A rhoddent iddo win â myrr ynddo; ond ef nis cymerth.
24
A chroeshoeliant ef, a rhannant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
25
A’r drydedd awr oedd hi, a chroeshoeliasant ef.
26
Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hysgrifennu — BRENIN YR IDDEWON.
27
A chydag ef croeshoeliant ddau leidr, un ar ei ddeheulaw ac un ar ei aswy.
29
A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablai ef, gan ysgwyd eu pennau a dywedyd, “Hai, ddymchwelwr y deml a’i hadeiladwr mewn tridiau,
30
achub dy hun a disgyn oddiar y groes.”
31
Yr un modd yr archoffeiriaid hefyd a’i gwatwarai wrth ei gilydd gyda’r ysgrifenyddion, ac meddent, “Eraill a achubodd, ei hun ni all ei achub.
32
Y Crist, Brenin Israel, disgynned yn awr oddiar y groes, fel y gwelom ac y credom.” A’r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo.
33
A phan ddaeth y chweched awr bu tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr.
34
Ac ar y nawfed awr dolefodd yr Iesu â llef uchel, “Eloi, Eloi, lama sabachthani?” hynny yw, o’i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?”
35
A rhai o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, wrth ei glywed, a ddywedai, “Wele, mae’n galw ar Elïas.”
36
A rhedodd rhywun, a llanwodd ysbwng â surwin, ac wedi ei roi ar flaen gwialen fe’i diodai, gan ddywedyd, “Gedwch i ni weled a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr!”
37
Ond yr Iesu a roes lef uchel, ac a drengodd.
38
A llen y deml a rwygwyd yn ddwy oddi fry i lawr.
39
A phan welodd y canwriad a safai gyferbyn ag ef mai felly y trengodd, fe ddywedodd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw.”
40
Yr oedd hefyd wragedd yn edrych o bell, ac yn eu plith Mair o Fagdala, a Mair mam Iago Fychan ac Ioses, a Salome,
41
y rhai, pan oedd ef yn Galilea, a’i dilynai ac a weinyddai arno, a llawer o wragedd eraill, a ddeuthai i fyny gydag ef i Gaersalem.
42
Ac yn awr wedi iddi hwyrhau, gan ei bod yn ddydd darpar, sef y dydd cyn y Sabath,
43
fe ddaeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr bonheddig, oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac ymwrolodd ac aeth i mewn at Bilat, a gofyn am gorff yr Iesu.
44
A rhyfeddodd Pilat ei farw eisoes; ac wedi galw’r canwriad ato fe ofynnodd iddo a fuasai farw eisoes;
45
a phan wybu gan y canwriad fe roddes y gelain i Ioseph.
46
A phrynodd yntau lenllïain; ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe’i hamdôdd yn y llenllïain, a dododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o’r graig, a threiglodd faen ar ddrws y bedd.
47
A Mair o Fagdala a Mair mam Ioses a sylwai pa le y dodwyd ef.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16