bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 12
Mark 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
A dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd dyn winllan; a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd gain dan y gwinwryf, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref.
2
Ac anfonodd at y llafurwyr, pan ddaeth yr amser, was, i gymryd gan y llafurwyr o ffrwyth y winllan;
3
a’i ddal a wnaethant, a’i guro, a’i anfon ymaith yn waglaw.
4
A thrachefn anfonodd atynt was arall; a hwnnw a archollasant yn ei ben, ac a amharchasant.
5
Ac un arall a anfonodd; a hwnnw a laddasant; ac felly lawer eraill — curo rhai a lladd y lleill.
6
Un eto oedd ganddo, mab annwyl; anfonodd ef yn olaf atynt, gan ddywedyd, ‘Parchant fy mab.’
7
Ond y llafurwyr hynny a ddywedodd wrth ei gilydd, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a ni fydd piau’r etifeddiaeth.’
8
A’i ddal a wnaethant, a’i ladd, a’i fwrw tu allan i’r winllan.
9
Beth a wna perchen y winllan? Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr, a rhydd y winllan i eraill.
10
Oni ddarllenasoch hyd yn oed yr ysgrythyr hon? — Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl:
11
Oddiwrth yr Arglwydd y daeth hyn, ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni.”
12
A cheisient gael gafael arno; ond ofnasant y dyrfa; canys deallasant mai gyda golwg arnynt hwy y dywedasai’r ddameg. A gadasant iddo, ac aethant ymaith.
13
Ac anfonant ato rai o’r Phariseaid ac o’r Herodianiaid, i’w ddal ar air.
14
Ac wedi dyfod, dywedant wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn didwylledd y dysgi ffordd Duw: a ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio? A rown hi, ai nis rhown?”
15
Gwelodd yntau eu rhagrith, a dywedodd wrthynt, “Pam y temtiwch fi? Dygwch imi swllt; gedwch imi weled.”
16
Dygasant hwythau un. Ac eb ef wrthynt, “Pwy bïau’r ddelw hon a’r argraff?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.”
17
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, “Pethau Cesar rhowch i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” A rhyfeddent ato.
18
A daw Sadwceaid ato, rhai a ddywed nad oes atgyfodiad; a gofynnent iddo gan ddywedyd,
19
“Athro, fe sgrifennodd Moses i ni, o bydd marw brawd neb, a gadael gwraig, a heb adael plentyn, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd.
20
Saith o frodyr a fu; a’r cyntaf a gymerth wraig, a phan fu farw ni adawodd had;
21
a’r ail a’i cymerth hi, ac a fu farw heb adael had; a’r trydydd yr un modd;
22
a’r saith ni adawsant had. Yn olaf oll bu’r wraig hefyd farw.
23
Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodant, i ba un ohonynt y bydd hi’n wraig? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.”
24
Meddai’r Iesu wrthynt, “Onid oherwydd hyn y cyfeiliornwch, na wyddoch na’r ysgrythyrau, na gallu Duw?
25
Canys pan gyfodant o feirw, ni phriodant ac nis prïodir, eithr y maent fel angylion yn y nefoedd.
26
Ond am y meirw, eu bod yn cyfodi, oni ddarllenasoch yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, pa fodd y llefarodd Duw wrtho gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob?
27
Nid yw ef Dduw rhai meirw ond rhai byw. Mawr y cyfeiliornwch.”
28
A daeth ato un o’r ysgrifenyddion a’u clywsai hwynt yn dadleu, ac yn gwybod mai da’r atebasai hwynt gofynnodd iddo, “Pa un yw’r gorchymyn cyntaf oll?”
29
Atebodd yr Iesu, “Y cyntaf yw, Clyw, Israel, yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd ydyw;
30
a châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.
31
Yr ail yw hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Gorchymyn arall mwy na’r rhai hyn nid oes.”
32
A dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da, Athro; gwir y dywedaist mai Un ydyw, ac nid oes arall namyn ef;
33
a bod ei garu â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac â’r holl nerth, a charu’r cymydog fel ei hun, yn fwy na’r holl boeth-offrymau ac aberthau.”
34
A’r Iesu’n gweled mai synhwyrol yr atebodd, a ddywedodd wrtho, “Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb mwyach ei holi.
35
Ac atebodd yr Iesu, ac meddai, wrth ddysgu yn y deml, “Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod y Crist yn fab Dafydd?
36
Dafydd ei hun a ddywedodd trwy’r Ysbryd Glân, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion dan dy draed.
37
Dafydd ei hun a’i geilw ef yn Arglwydd, ac o ba le y mae’n fab iddo?” A’r lliaws mawr oedd hoff ganddynt wrando arno.
38
Ac yn ei ddysgeidiaeth fe ddywedai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,
39
a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddau;
40
y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; fe dderbyn y rhai hyn drymach dedfryd.”
41
Ac wedi eistedd gyferbyn â’r drysorfa fe sylwai pa fodd y bwriai’r dorf bres i’r drysorfa; a llawer o gyfoethogion a fwriai lawer;
42
a daeth rhyw weddw dlawd, a bwriodd ddwy hatling, hynny yw ffyrling.
43
A galwodd ei ddisgyblion ato, a dywedodd wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, y weddw dlawd hon, mwy a fwriodd na phawb o’r rhai sy’n bwrw i’r drysorfa;
44
canys hwy oll, o’u gweddill y bwriasant; ond hon, o’i hangen y bwriodd yr hyn oll a feddai, ei holl fywoliaeth.”
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16