bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 11
Mark 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
A phan neshânt at Gaersalem, at Fethphage a Bethania ger mynydd yr Olewydd, fe enfyn ddau o’i ddisgyblion,
2
a dywed wrthynt, “Ewch i’r pentref gyferbyn â chwi, ac yn y fan wrth fynd i mewn iddo chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno; gollyngwch ef, a dygwch ymaith.
3
Ac os dywed neb wrthych, ‘Paham y gwnewch hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar yr Arglwydd ei eisiau; ac yn y man fe’i henfyn yn ol yma.’ ”
4
Ac aethant ymaith, a chawsant ebol yn rhwym wrth ddrws allan ar yr heol; a gollyngant ef.
5
A rhai o’r rhai oedd yno’n sefyll a ddywedai wrthynt, “Beth a wnewch yn gollwng yr ebol?”
6
Dywedasant hwythau wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadasant iddynt.
7
A dygant yr ebol at yr Iesu, a bwriant arno’u dillad, ac eisteddodd yntau arno.
8
A llawer a daenodd eu dillad ar y ffordd, ac eraill fanwydd a dorasent o’r meysydd.
9
A’r rhai a ragflaenai a’r rhai a ddilynai oedd yn llefain: “Hosanna! Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd;
10
Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchafion!”
11
Ac fe aeth i mewn i Gaersalem i’r deml; ac wedi edrych o amgylch ar bopeth, a’r awr weithian yn hwyr, fe aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.
12
A thrannoeth, pan aethant allan o Fethania, daeth arno eisiau bwyd.
13
Ac wedi gweled ffigyswydden o hirbell ag arni ddail, fe aeth i weled tybed a gaffai ddim arni; ac wedi dyfod ati ni chafodd arni ddim ond dail, canys nid oedd yn amser ffigys.
14
Ac fe atebodd, a dywedodd wrthi, “Byth bythoedd mwyach na fwytaed neb ffrwyth ohonot ti.” A chlywai ei ddisgyblion.
15
A deuant i Gaersalem. Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr a’r prynwyr yn y deml; a byrddau’r cyfnewidwyr arian a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod a ddymchwelodd;
16
ac ni adai i neb ddwyn llestr drwy’r deml.
17
A dechreuodd ddysgu, a dywedyd wrthynt “Onid yw’n ysgrifenedig, Fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd? ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”
18
A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a cheisient pa fodd y difethent ef; canys ofnent ef, oblegid yr holl dyrfa a synnai at ei ddysgeidiaeth.
19
Ac wedi iddi fynd yn hwyr aent allan o’r ddinas.
20
Ac wrth iddynt fynd heibio’r bore gwelsant y ffigyswydden wedi crino o’r gwraidd.
21
A chofiodd Pedr, ac fe ddywed wrtho, “Rabbi, dyma’r ffigyswydden a felltithiaist wedi crino.”
22
Ac atebodd yr Iesu, a dywed wrthynt, “Boed gennych ffydd yn Nuw.
23
Yn wir, meddaf i chwi, pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, ‘Coder di, a bwrier di i’r môr,’ ac nid amheuo yn ei galon, eithr credu y daw’r hyn a ddywed i ben, fe fydd iddo.
24
Am hynny, meddaf i chwi, beth bynnag oll a weddïoch ac a ofynnoch amdano, credwch i chwi ei gael, ac fe fydd i chwi.
25
A pha bryd bynnag y safoch i weddïo, maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb, fel y maddeuo’ch Tad sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.”
27
A deuant drachefn i Gaersalem. Ac wrth iddo rodio yn y deml daw ato’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid,
28
ac meddent wrtho, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? neu bwy roes i ti’r awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn?”
29
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Mi ofynnaf i chwi un gair, ac atebwch fi, a dywedaf wrthych trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
30
Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? Atebwch fi.”
31
Ac ymresyment â’i gilydd gan ddywedyd, “Os dywedwn ‘O’r nef,’ fe ddywed, ‘Paham ynteu na chredasoch iddo?’
32
Eithr a ddywedwn ni ‘O ddynion’?” — ofnent y dyrfa; canys pawb a syniai am Ioan mewn gwirionedd mai proffwyd oedd.
33
Ac atebasant yr Iesu, a dywedant, “Nis gwyddom.” A dywed yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.”
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16