bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 8
Mark 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Yn y dyddiau hynny, pan oedd eilwaith dyrfa fawr a heb ganddynt ddim i’w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac medd ef wrthynt,
2
“Y mae’n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa, canys yn awr y maent ers tridiau’n tario gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta;
3
ac os gollyngaf hwynt ar eu cythlwng adref, llewygant ar y ffordd; ac y mae rhai ohonynt o bell.”
4
Ac atebodd ei ddisgyblion iddo, “O ba le y gall neb ddiwallu’r rhain â bara yma mewn diffeithwch?”
5
A gofynnai ef iddynt, “Pa sawl torth sy gennych?” Dywedasant hwythau, “Saith.”
6
Ac fe orchymyn i’r dyrfa eistedd ar y llawr; ac fe gymerth y saith dorth, ac wedi diolch, torrodd, a rhoddai hwynt i’w ddisgyblion i’w gosod o’u blaenau; a gosodasant hwynt o flaen y dorf.
7
Ac yr oedd ganddynt ychydig o fân bysgod; ac wedi iddo’u bendithio dywedodd am roi’r rheini hefyd o’u blaenau.
8
A bwytasant, a diwallwyd hwynt; a chodasant o ddarnau gweddill saith gawellaid.
9
Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil. A gollyngodd hwynt ymaith.
10
Ac yna aeth i’r llong gyda’i ddisgyblion, a daeth i barthau Dalmanwtha.
11
A daeth y Phariseaid allan, a dechreuasant ddadleu ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, er ei brofi.
12
Ac wedi ocheneidio yn ei ysbryd, fe ddywed “Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, meddaf i chwi, ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd.”
13
A gadawodd hwynt, ac wedi mynd drachefn i’r llong, aeth ymaith i’r ochr arall.
14
Ac anghofiasent gymryd bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwynt yn y llong.
15
A gorchmynnai iddynt gan ddywedyd, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”
16
Ac ymresyment â’i gilydd nad oedd ganddynt fara.
17
A phan wybu, fe ddywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch nad oes gennych fara? Oni welwch fyth, ac oni ddeellwch? Ai wedi ei dallu y mae eich calon gennych?
18
A llygaid gennych oni welwch, ac â chlustiau gennych oni chlywch? Ac onid ydych yn cofio,
19
pan dorrais i bum torth i’r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o ddarnau a godasoch?” Dywedant wrtho, “Deuddeg.”
20
“Pan dorrais saith i’r pedair mil, llond pa sawl cawell o ddarnau a godasoch?” A dywedant, “Saith.”
21
Ac meddai wrthynt, “Onid ydych eto’n deall?”
22
A deuant i Fethsaida. A dygant ato ddyn dall, ac erfyniant arno gyffwrdd ag ef.
23
Ac fe ymafaelodd yn llaw’r dall, a dug ef allan o’r pentref; ac wedi poeri ar ei lygad, dododd ei ddwylo arno, a gofynnai iddo, “A weli di rywbeth?”
24
A chododd ei olwg, ac meddai, “Mi welaf ddynion, canys rhai fel coed a ganfyddaf yn cerdded.”
25
Ar hyn dododd ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef; a chraffodd ef, ac adferwyd ef; ac fe welai ymhell ac yn glir bopeth.
26
Ac anfonodd yntau ef adref, gan ddywedyd, “Na ddos hyd yn oed i mewn i’r pentref.”
27
Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefydd Cesarea Philippi; ac ar y ffordd gofynnai i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, “Pwy medd dynion ydwyf fi?”
28
A mynegasant hwythau iddo, gan ddywedyd, “Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elïas; ond eraill un o’r proffwydi.”
29
Ac yntau a ofynnai iddynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Pedr, a dywed wrtho, “Ti yw’r Crist.”
30
A rhybuddiodd hwynt na ddywedent wrth neb amdano.
31
A dechreuodd eu dysgu fod yn rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi;
32
a difloesgni y llefarai’r ymadrodd. A chymerth Pedr ef ato, a dechreuodd ei geryddu.
33
Troes yntau, ac wrth weled ei ddisgyblion, ceryddodd Bedr; ac medd ef, “Dos yn fy ol i, Satan; canys nid wyt yn synio pethau Duw, ond pethau dynion.”
34
A galwodd ato’r dyrfa ynghyda’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
35
Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, hwnnw a’i cyll; ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw.
36
Canys pa elw i ddyn yw ennill y byd oll a fforffedu ei fywyd?
37
Canys beth a all dyn ei roi’n gyfnewid am ei fywyd?
38
Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof fi ac o’m geiriau yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon, ar Fab y dyn yntau y bydd cywilydd ohono ef, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion santaidd.”
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16