bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Mark 10
Mark 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Ac oddiyno cododd, a daw i ororau Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen; a chyd-gyrcha drachefn dyrfaoedd ato, ac, fel yr arferai, drachefn y dysgai hwynt.
2
A daeth ato Phariseaid, a gofynnent iddo ai iawn i ŵr ymwrthod â’i wraig; — er ei brofi ef.
3
Atebodd yntau, a dywedodd wrthynt, “Beth a orchmynnodd Moses i chwi?”
4
Dywedasant hwythau, “Caniataodd Moses ysgrifennu llythyr ysgar, ac ymwrthod â hi,”
5
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Oherwydd eich calon-galedwch chwi yr ysgrifennodd i chwi’r gorchymyn yna.
6
Ond o ddechreuad y greadigaeth yn wryw a benyw y gwnaeth ef hwynt;
7
am hyn y gedy dyn ei dad a’i fam,
8
a bydd y ddau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.
9
Y peth gan hynny a ieuodd Duw, na wahaned dyn.”
10
Ac yn y tŷ drachefn holai’r disgyblion ef ynghylch hyn.
11
Ac eb ef wrthynt, “Pwy bynnag a ymwrthodo â’i wraig, a phriodi un arall, y mae’n godinebu yn ei herbyn hi;
12
ac os hithau a ymwrthyd â’i gŵr a phriodi arall, y mae hi’n godinebu.”
13
A dygent ato blant bach, fel y cyffyrddai â hwynt; ond y disgyblion a’u ceryddodd hwynt.
14
Ond pan welodd yr Iesu fe ddigiodd, a dywedodd wrthynt, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf fi; peidiwch a’u rhwystro; canys rhai fel hwy bïau deyrnas Dduw.
15
Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.”
16
Ac fe’u cymerai hwynt yn ei freichiau, ac a’u bendithiai, dan ddodi ei ddwylo arnynt.
17
Ac wrth iddo gychwyn i ffwrdd, rhedodd un ato, a phenliniodd iddo, a gofynnai iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
18
A’r Iesu a ddywedodd wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw.
19
Y gorchmynion a wyddost: Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na cham-atal, Anrhydedda dy dad a’th fam.”
20
Ac meddal yntau wrtho, “Athro, y rhai hyn oll a gedwais o’m hieuenctid.”
21
A’r Iesu a edrychodd arno ac a’i carodd; a dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ol ynot: dos, gwerth y cwbl sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyred, dilyn fi.”
22
Ond cymylodd ei wedd ef wrth y gair, ac aeth ymaith yn ofidus, canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
23
Ac edrychodd yr Iesu o amgylch, ac medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!”
24
A’r disgyblion a arswydai wrth ei eiriau. Ond yr Iesu drachefn a atebodd ac a ddywed wrthynt, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
25
Haws yw i gamel fynd trwy grau’r nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
26
A dirfawr y synnent, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “A phwy all gael ei gadw?”
27
Edrychodd yr Iesu arnynt, ac eb ef, “Gyda dynion amhosibl, eithr nid gyda Duw; canys popeth sy bosibl gyda Duw.”
28
Dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, “Dyma ni wedi gadael popeth a’th ddilyn di.”
29
Meddai’r Iesu, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a’r a adawodd gartref, neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam, neu dad, neu blant, neu diroedd, er fy mwyn i ac er mwyn yr efengyl,
30
a’r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau, ac yn yr oes a ddaw fywyd tragwyddol.
31
Ond llawer a fydd o rai blaenaf yn olaf, a’r olaf yn flaenaf.”
32
Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Gaersalem; ac yr oedd yr Iesu’n eu rhagflaenu; ac arswyd oedd arnynt; ac ar y rhai a ddilynai yr oedd ofn. Ac fe gymerth drachefn y deuddeg ato, a dechreuodd fynegi iddynt y pethau oedd ar ddigwydd iddo:
33
“Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid ac i’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, a thraddodant ef i’r cenhedloedd;
34
a gwatwarant ef, a phoerant arno, a ffrewyllant ef, a lladdant; ac ymhen tridiau fe atgyfyd.”
35
A daw ato Iago ac Ioan meibion Sebedeus, gan ddywedyd wrtho, “Athro, dymunwn iti wneuthur i ni yr hyn a ofynnom.”
36
Dywedodd yntau wrthynt, “Beth a ddymunwch imi ei wneuthur i chwi?”
37
Dywedasant hwythau wrtho, “Dyro i ni gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy ogoniant.”
38
Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan a yfaf fi? neu eich bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i?”
39
Dywedasant hwythau wrtho, “Gallwn.” Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, “Y cwpan a yfaf fi a yfwch, ac â’r bedydd y’m bedyddir i y’ch bedyddir;
40
ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid yw eiddof fi ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd y mae.”
41
A phan glywodd y deg, dechreuasant ddigio ynghylch Iago ac Ioan.
42
A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywed wrthynt, “Chwi wyddoch fod y rhai’r ystyrrir eu bod yn llywodraethu ar y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’u mawrion yn awdurdodi arnynt.
43
Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded i chwi’n was;
44
a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded i bawb yn gaethwas.
45
Canys Mab y dyn yntau ni ddaeth i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”
46
A deuant i Iericho. Ac wrth iddo fynd allan o Iericho, ef a’i ddisgyblion a chryn dyrfa, mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, oedd yn eistedd ar fin y ffordd.
47
A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dywedyd, “Fab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.”
48
A rhybuddiai llawer ef i dewi. Ond mwy o lawer y gwaeddai yntau, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
49
A safodd yr Iesu, a dywedodd, “Gelwch arno.” A galwant ar y dall, gan ddywedyd wrtho, “Cymer galon; cyfod; y mae’n galw arnat.”
50
A thaflodd yntau ei fantell, a llamodd i fyny, a daeth at yr Iesu.
51
Ac atebodd yr Iesu ef, a dywedodd, “Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” A’r dall a ddywedodd wrtho, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ol.”
52
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, dy ffydd a’th iachaodd.” Ac yn y fan fe gafodd ei olwg, ac fe’i dilynai ef ar y ffordd.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16