bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 10
1 Chronicles 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 11 →
1
A'r Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa.
2
A'r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a'r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul.
3
A'r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a'r perchen bwâu a'i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion.
4
Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwân fi ag ef, rhag dyfod y rhai dienwaededig hyn a'm gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnâi, canys ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno.
5
A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw.
6
Felly y bu farw Saul, a'i dri mab ef, a'i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd.
7
A phan welodd holl wŷr Israel, y rhai oedd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a'i feibion; hwy a ymadawsant o'u dinasoedd, ac a ffoesant; a'r Philistiaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt.
8
A thrannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a'i feibion yn feirw ym mynydd Gilboa.
9
Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a'i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ddangos i'w delwau, ac i'r bobl.
10
A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ eu duwiau, a'i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon.
11
A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul,
12
Pob gŵr nerthol a godasant, ac a gymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a'u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwrnod.
13
Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi;
14
Ac heb ymgynghori â'r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29