bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 21
1 Chronicles 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 22 →
1
A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel.
2
A dywedodd Dafydd wrth Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt.
3
A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweision i'm harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel?
4
Ond gair y brenin a fu drech na Joab: a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem.
5
A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf; a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf.
6
Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin.
7
A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg DUW, ac efe a drawodd Israel.
8
A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn.
9
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
10
Dos, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a'i gwnaf i ti.
11
Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cymer i ti.
12
Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i'r hwn a'm hanfonodd.
13
A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.
14
Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.
15
A DUW a anfonodd angel i Jerwsalem i'w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
16
A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r nefoedd, a'i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerwsalem. A syrthiodd Dafydd a'r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau.
17
A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O ARGLWYDD fy NUW, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl.
18
Yna angel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i'r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad.
19
A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr ARGLWYDD.
20
Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a'i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.
21
A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o'r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â'i wyneb tua'r ddaear.
22
A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i'r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
23
Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a'r offer dyrnu yn gynnud, a'r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.
24
A'r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i'r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.
25
Felly y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.
26
Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a'i hatebodd ef o'r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.
27
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.
28
Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i'r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno.
29
Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon:
30
Ac ni allai Dafydd fyned o'i blaen hi i ymofyn â DUW; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr ARGLWYDD.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29