bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 22
1 Chronicles 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 23 →
1
A Dywedodd Dafydd, Hwn yw tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel.
2
Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe a osododd seiri meini i naddu cerrig nadd, i adeiladu tŷ DDUW.
3
A pharatôdd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrth, ac i'r cysylltiadau, a phres mor helaeth ag nad oedd arno bwys;
4
Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a'r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd.
5
A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a'r tŷ a adeiledir i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wledydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratôdd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth.
6
Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel.
7
Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solomon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW.
8
Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dŷ i'm henw i, canys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i.
9
Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr llonydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef.
10
Efe a adeilada dŷ i'm henw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.
11
Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo gyda thi, a ffynna dithau, ac adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti.
12
Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orchmynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW.
13
Yna y ffynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel. Ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda.
14
Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy.
15
Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.
16
Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a'r ARGLWYDD a fydd gyda thi.
17
A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,
18
Onid yw yr ARGLWYDD eich DUW gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a'r tir a ddarostyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef.
19
Yn awr rhoddwch eich calon a'ch enaid i geisio yr ARGLWYDD eich DUW; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri DUW, i'r tŷ a adeiledir i enw yr ARGLWYDD.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29