bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 16
1 Chronicles 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
1
Felly y dygasant hwy arch DUW i mewn, ac a'i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron DUW.
2
Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD.
3
Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chostrelaid o win.
4
Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weinidogion o'r Lefiaid, i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori ARGLWYDD DDUW Israel.
5
Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed‐edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau.
6
Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod DUW.
7
Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a'i frodyr.
8
Moliennwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
9
Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.
10
Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD.
11
Ceiswch yr ARGLWYDD a'i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
12
Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;
13
Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.
14
Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
15
Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau;
16
Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac:
17
Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18
Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
19
Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20
A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;
21
Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o'u plegid hwy, gan ddywedyd,
22
Na chyffyrddwch â'm heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23
Cenwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
24
Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a'i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25
Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26
Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27
Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
28
Moeswch i'r ARGLWYDD, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
29
Moeswch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i'r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd.
30
Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
31
Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.
32
Rhued y môr a'i gyflawnder; llawenhaed y maes, a'r hyn oll y sydd ynddo.
33
Yna prennau y coed a ganant o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear.
34
Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
35
A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.
36
Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.
37
Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a'i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
38
Ac Obed‐edom a'u brodyr, wyth a thrigain; Obed‐edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion:
39
Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon,
40
I offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:
41
A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a'r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:
42
A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i'r cerddorion, ac offer cerdd DUW: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.
43
A'r holl bobl a aethant bob un i'w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29