bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 23
1 Chronicles 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 24 →
1
A phan oedd Dafydd yn hen, ac yn llawn o ddyddiau, efe a osododd Solomon ei fab yn frenin ar Israel.
2
Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid.
3
A'r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a'u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.
4
O'r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr ARGLWYDD; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:
5
A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr ARGLWYDD â'r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.
6
A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.
7
O'r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.
8
Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.
9
Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan.
10
Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.
11
A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.
12
Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
13
Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a'i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
14
A Moses gŵr DUW, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.
15
Meibion Moses oedd, Gersom ac Elieser.
16
O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.
17
A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.
18
O feibion Ishar; Selomith y pennaf.
19
O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
20
O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
21
Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.
22
A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a'u priododd hwynt.
23
Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.
24
Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr ARGLWYDD, o fab ugain mlwydd ac uchod.
25
Canys dywedodd Dafydd, ARGLWYDD DDUW Israel a roddes lonyddwch i'w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;
26
A hefyd i'r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o'i lestri, i'w wasanaeth ef.
27
Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod:
28
A'u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ DDUW;
29
Yn y bara gosod hefyd, ac ym mheilliaid y bwyd‐offrwm, ac yn y teisennau croyw, yn y radell hefyd, ac yn y badell ffrio, ac ym mhob mesur a meidroldeb:
30
Ac i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr ARGLWYDD, felly hefyd brynhawn:
31
Ac i offrymu pob offrwm poeth i'r ARGLWYDD ar y Sabothau, ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau gosodedig, wrth rifedi, yn ôl y ddefod sydd arnynt yn wastadol gerbron yr ARGLWYDD:
32
Ac i gadw goruchwyliaeth pabell y cyfarfod, a goruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth meibion Aaron eu brodyr, yng ngwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29