bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 26
1 Chronicles 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 27 →
1
Am ddosbarthiad y porthorion: O'r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff.
2
A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf‐anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd,
3
Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed.
4
A meibion Obed‐edom; Semaia y cyntaf‐anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed,
5
Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys DUW a'i bendithiodd ef.
6
Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy.
7
Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia.
8
Y rhai hyn oll o feibion Obed‐edom: hwynt‐hwy, a'u meibion, a'u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed‐edom.
9
Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol.
10
O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a'i gosododd ef yn ben;)
11
Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
12
Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD.
13
A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth.
14
A choelbren Selemeia a syrthiodd tua'r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a'i goelbren ef a ddaeth tua'r gogledd.
15
I Obed‐edom tua'r deau, ac i'w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
16
I Suppim, a Hosa, tua'r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.
17
Tua'r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua'r gogledd pedwar beunydd, tua'r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau.
18
A Pharbar tua'r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar.
19
Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20
Ac o'r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ DDUW, ac ar drysorau y pethau cysegredig.
21
Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli.
22
Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr ARGLWYDD.
23
O'r Amramiaid, a'r Ishariaid, o'r Hebroniaid, a'r Ussieliaid:
24
A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
25
A'i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau.
26
Y Selomith hwnnw a'i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a'r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a thywysogion y llu.
27
O'r rhyfeloedd ac o'r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr ARGLWYDD.
28
A'r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a'i frodyr.
29
O'r Ishariaid, Chenaneia a'i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan.
30
O'r Hebroniaid, Hasabeia a'i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua'r gorllewin, yn holl waith yr ARGLWYDD, ac yng ngwasanaeth y brenin.
31
O'r Hebroniaid, Jereia oedd ben o'r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead.
32
A'i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau‐cenedl: a Dafydd y brenin a'u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a'r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl DUW, a gorchwyl y brenin.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29