bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 2
1 Chronicles 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 3 →
1
Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon,
2
Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.
3
Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac efe a'i lladdodd ef.
4
A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.
5
Meibion Phares; Hesron a Hamul.
6
A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.
7
A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth.
8
A meibion Ethan; Asareia.
9
A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.
10
A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;
11
A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;
12
A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;
13
A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,
14
Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,
15
Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:
16
A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.
17
Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.
18
A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.
19
A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.
20
A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.
21
Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a'i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.
22
A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.
23
Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a'i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.
24
Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.
25
A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.
26
A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a'i henw Atara: hon oedd fam Onam.
27
A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer.
28
A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.
29
Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.
30
A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant.
31
A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.
32
A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant.
33
A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.
34
Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a'i enw Jarha.
35
A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai.
36
Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.
37
A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,
38
Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia,
39
Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa,
40
Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum,
41
A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.
42
Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf‐anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.
43
A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.
44
A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai.
45
A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur.
46
Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases.
47
A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff.
48
Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana.
49
Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.
50
Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur, cyntaf‐anedig Effrata; Sobal tad Ciriath‐jearim,
51
Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth‐gader.
52
A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath‐jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid,
53
A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid, a'r Puhiaid, a'r Sumathiaid, a'r Misraiaid: o'r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a'r Esthauliaid.
54
Meibion Salma; Bethlehem, a'r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid.
55
A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29