bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 17
1 Chronicles 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 18 →
1
A phan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywedodd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD dan gortynnau.
2
Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae DUW gyda thi.
3
A'r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd,
4
Dos, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo.
5
Canys ni phreswyliais i mewn tŷ er y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac o dabernacl bwygilydd.
6
Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i'r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
7
Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn dywysog ar fy mhobl Israel.
8
A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o'th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear.
9
Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le, ac a'u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf,
10
Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyngaf hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i ti dŷ.
11
A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o'th feibion di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef.
12
Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth.
13
Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a'm trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o'th flaen di.
14
Ond mi a'i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a'i deyrngadair ef a sicrheir byth.
15
Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
16
A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDD DDUW, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?
17
Eto bychan yw hyn yn dy olwg di, O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn uchelradd.
18
Pa beth a chwanega Dafydd ei ddywedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was.
19
O ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd.
20
O ARGLWYDD, nid oes neb fel tydi, ac nid oes DUW ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom â'n clustiau.
21
A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth DUW i'w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o'r Aifft?
22
Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a aethost yn DDUW iddynt hwy.
23
Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dŷ ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist.
24
A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd, ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di.
25
Canys ti, O fy NUW, a ddywedaist i'th was, yr adeiladit ti dŷ iddo ef: am hynny y cafodd dy was weddïo ger dy fron di.
26
Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn;
27
Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29