bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 15
1 Chronicles 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
1
A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratôdd le i arch DUW, ac a osododd iddi babell.
2
A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch DUW, ond i'r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch DUW, ac i weini iddo ef yn dragywydd.
3
A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i'w lle a baratoesai efe iddi hi.
4
A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a'r Lefiaid.
5
O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a'i frodyr, cant ac ugain.
6
O feibion Merari; Asaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant ac ugain.
7
O feibion Gersom; Joel y pennaf, a'i frodyr, cant a deg ar hugain.
8
O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a'i frodyr, dau cant.
9
O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a'i frodyr, pedwar ugain.
10
O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a'i frodyr, cant a deuddeg.
11
A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab,
12
Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau‐cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a'ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel i'r lle a baratoais iddi hi.
13
Oherwydd nas gwnaethoch o'r dechreuad, y torrodd yr ARGLWYDD ein DUW arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem.
14
Felly yr offeiriaid a'r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch ARGLWYDD DDUW Israel.
15
A meibion y Lefiaid a ddygasant arch DUW ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
16
A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd.
17
Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o'i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia.
18
A chyda hwynt eu brodyr o'r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, y porthorion.
19
Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres.
20
A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth.
21
A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed‐edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori.
22
Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd.
23
A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i'r arch.
24
A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch DUW: Obed‐edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i'r arch.
25
Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD o dŷ Obed‐edom mewn llawenydd.
26
A phan gynorthwyodd DUW y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod.
27
A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a'r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a'r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a'r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain.
28
A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr ARGLWYDD â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda'r nablau a'r telynau.
29
A phan ydoedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
Recommended Reading
Commentary
1 Chronicles Commentaries
→
Devotional
1 Chronicles Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→