bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 18
1 Chronicles 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 19 →
1
A darfu wedi hyn, i Dafydd daro'r Philistiaid, a'u darostwng hwynt, a dwyn Gath a'i phentrefi o law y Philistiaid.
2
Hefyd efe a drawodd Moab; a'r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth.
3
Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates.
4
A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.
5
A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.
6
A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A'r ARGLWYDD a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth.
7
A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a'u dug hwynt i Jerwsalem.
8
Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, â'r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a'r colofnau, a'r llestri pres.
9
A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba;
10
Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i'w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a'i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou.
11
Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r ARGLWYDD, gyda'r arian a'r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec.
12
Ac Abisai mab Serfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg.
13
Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a'r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A'r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe.
14
A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
15
A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
16
A Sadoc mab Ahitub, ac Abimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd;
17
Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29