bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 11
1 Chronicles 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 12 →
1
Yna holl Israel a ymgasglasant at Dafydd i Hebron, gan ddywedyd, Wele, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.
2
Doe hefyd, ac echdoe, pan ydoedd Saul yn frenin, tydi oedd yn arwain Israel i mewn ac allan: a dywedodd yr ARGLWYDD dy DDUW wrthyt, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.
3
A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Samuel.
4
A Dafydd a holl Israel a aeth i Jerwsalem, hon yw Jebus, ac yno y Jebusiaid oedd drigolion y tir.
5
A thrigolion Jebus a ddywedasant wrth Dafydd, Ni ddeui i mewn yma. Eto Dafydd a enillodd dŵr Seion, yr hwn yw dinas Dafydd.
6
A dywedodd Dafydd, Pwy bynnag a drawo y Jebusiaid yn gyntaf, efe a fydd yn bennaf, ac yn dywysog. Yna yr esgynnodd Joab mab Serfia yn gyntaf, ac a fu bennaf.
7
A thrigodd Dafydd yn y tŵr: oherwydd hynny y galwasant ef Dinas Dafydd.
8
Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a adgyweiriodd y rhan arall i'r ddinas.
9
A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac ARGLWYDD y lluoedd oedd gydag ef.
10
Dyma hefyd benaethiaid y cedyrn oedd gan Dafydd, yn ymgryfhau gydag ef yn ei deyrnas, a chyda holl Israel, i'w wneuthur ef yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
11
A dyma rif y cedyrn oedd gan Dafydd; Jasobeam mab Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.
12
Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o'r tri chadarn.
13
Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a'r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o'r maes yn llawn haidd, a'r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.
14
A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a'i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr ARGLWYDD hwynt ag ymwared mawr.
15
A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant i'r graig at Dafydd, i ogof Adulam; a llu y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
16
A Dafydd yna ydoedd yn yr amddiffynfa, a sefyllfa y Philistiaid yna oedd yn Bethlehem.
17
A Dafydd a flysiodd, ac a ddywedodd, O pwy a rydd i mi ddiod ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?
18
A'r tri a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant ac a'i dygasant i Dafydd: ac ni fynnai Dafydd ei yfed ef, ond efe a'i diodoffrymodd ef i'r ARGLWYDD:
19
Ac efe a ddywedodd, Na ato fy NUW i mi wneuthur hyn. A yfaf fi waed y dynion hyn, a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.
20
Ac Abisai brawd Joab oedd bennaf o'r tri. A hwn a ysgydwodd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo y bu enw ymhlith y tri.
21
O'r tri, anrhydeddusach na'r ddau eraill, a thywysog iddynt, oedd efe: ond ni ddaeth efe hyd y tri cyntaf.
22
Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, mawr ei weithredoedd: efe a laddodd ddau o gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.
23
Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.
24
Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.
25
Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.
26
A chedyrn y llu oedd Asahel brawd Joab, Elhanan mab Dodo o Bethlehem,
27
Sammoth yr Harodiad, Heles y Peloniad,
28
Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,
29
Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,
30
Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad,
31
Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad,
32
Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,
33
Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad,
34
Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,
35
Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur,
36
Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad,
37
Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai,
38
Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,
39
Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia,
40
Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
41
Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,
42
Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain,
43
Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad,
44
Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad,
45
Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,
46
Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad,
47
Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29