bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 14
1 Chronicles 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 15 →
1
A Hiram brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.
2
A gwybu Dafydd sicrhau o'r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.
3
A chymerth Dafydd wragedd ychwaneg yn Jerwsalem: a Dafydd a genhedlodd feibion ychwaneg, a merched.
4
A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,
5
Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,
6
A Noga, a Neffeg, a Jaffa,
7
Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.
8
A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.
9
A'r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.
10
A Dafydd a ymgynghorodd â DUW, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a'u rhoddaf hwynt yn dy law di.
11
Felly yr aethant i fyny i Baal‐perasim, a Dafydd a'u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, DUW a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y galwasant hwy enw y lle hwnnw Baal‐perasim.
12
A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.
13
A thrachefn eto y Philistiaid a ymwasgarasant yn y dyffryn.
14
A Dafydd a ymgynghorodd â DUW drachefn; a DUW a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.
15
A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae DUW wedi myned o'th flaen di, i daro llu y Philistiaid.
16
A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai DUW iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.
17
Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wledydd; a'r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29