bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 9
1 Chronicles 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 10 →
1
A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
2
Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a'r Nethiniaid.
3
Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse:
4
Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda.
5
Ac o'r Siloniaid; Asaia y cyntaf‐anedig, a'i feibion.
6
Ac o feibion Sera; Jeuel, a'u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain.
7
Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua,
8
Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;
9
A'u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau‐cenedl ar dŷ eu tadau.
10
Ac o'r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin,
11
Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ DDUW;
12
Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13
A'u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW.
14
Ac o'r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,
15
Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;
16
Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.
17
Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a'u brodyr; Salum ydoedd bennaf;
18
A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.
19
Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a'u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
20
Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o'r blaen: a'r ARGLWYDD ydoedd gydag ef.
21
Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
22
Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt‐hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.
23
Felly hwynt a'u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.
24
Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.
25
A'u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.
26
Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW.
27
Ac o amgylch tŷ DDUW y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.
28
Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
29
A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a'r gwin, a'r olew, a'r thus, a'r aroglau peraidd.
30
Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o'r aroglau peraidd.
31
A Matitheia, un o'r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf‐anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.
32
Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i'w ddarparu bob Saboth.
33
A dyma y cantorion, pennau‐cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.
34
Dyma bennau‐cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35
Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:
36
A'i fab cyntaf‐anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,
37
A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth.
38
A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda'u brodyr.
39
Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
40
A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.
41
A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.
42
Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:
43
A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
44
Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29