bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 28
1 Chronicles 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 29 →
1
A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a'i feibion, gyda'r ystafellyddion, a'r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem.
2
A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a'm pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i ystôl draed ein DUW ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu.
3
Ond DUW a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dŷ i'm henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.
4
Er hynny ARGLWYDD DDUW Israel a'm hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:
5
Ac o'm holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr ARGLWYDD i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr ARGLWYDD, ar Israel.
6
Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a'm cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.
7
A'i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a'm barnedigaethau i, megis y dydd hwn.
8
Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr ARGLWYDD, a lle y clywo ein DUW ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
9
A thithau Solomon fy mab, adnebydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a'i cei; ond os gwrthodi ef, efe a'th fwrw di ymaith yn dragywydd.
10
Gwêl yn awr mai yr ARGLWYDD a'th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.
11
Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth, a'i dai, a'i selerau, a'i gellau, a'i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,
12
A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ DDUW, ac am drysorau y pethau cysegredig:
13
Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
14
Efe a roddes o aur wrth bwys, i'r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i'r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:
15
Sef pwys y canwyllbrenni aur, a'u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i'w lampau: ac i'r canwyllbrennau arian wrth bwys, i'r canhwyllbren ac i'w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.
16
Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i'r byrddau arian;
17
Ac aur pur i'r cigweiniau, ac i'r ffiolau, ac i'r dysglau, ac i'r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i'r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch;
18
Ac i allor yr arogl‐darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.
19
Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr ARGLWYDD i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn.
20
A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy NUW i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni'th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
21
Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ DDUW, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a'r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29