bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 24
1 Chronicles 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 25 →
1
Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
2
A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant.
3
A Dafydd a'u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.
4
A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.
5
Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda'r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ DDUW, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar.
6
A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a'u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a'r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a'r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar.
7
A'r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a'r ail i Jedaia,
8
Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim,
9
Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin,
10
Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia,
11
Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia,
12
Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim,
13
Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab,
14
Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer,
15
Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses,
16
Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel,
17
Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul,
18
Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia.
19
Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr ARGLWYDD yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel iddo ef.
20
A'r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia.
21
Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia.
22
O'r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath.
23
A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
24
O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir.
25
Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia.
26
Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
27
Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri.
28
O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion.
29
Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel.
30
A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau.
31
A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau‐cenedl yr offeiriaid a'r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29