bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Chronicles 29
1 Chronicles 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
1
Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, DUW a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a'r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i'r ARGLWYDD DDUW.
2
Ac â'm holl gryfder y paratoais i dŷ fy NUW, aur i'r gwaith aur, ac arian i'r arian, a phres i'r pres, a haearn i'r haearn, a choed i'r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml.
3
Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy NUW, y mae gennyf o'm heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy NUW; heblaw yr hyn oll a baratoais tua'r tŷ sanctaidd:
4
Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai:
5
Yr aur i'r gwaith aur, a'r arian i'r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i'r ARGLWYDD?
6
Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar,
7
Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ DDUW, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn.
8
A chyda'r hwn y ceid meini, hwy a'u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad.
9
A'r bobl a lawenhasant pan offryment o'u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i'r ARGLWYDD: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.
10
Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
11
I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
12
Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
13
Ac yn awr, ein DUW ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.
14
Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoesom i ti.
15
Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.
16
O ARGLWYDD ein DUW, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i'th enw sanctaidd, o'th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
17
Gwn hefyd, O fy NUW, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.
18
ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.
19
A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a'th ddeddfau, ac i'w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
20
Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr ARGLWYDD eich DUW. A'r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r ARGLWYDD, ac i'r brenin.
21
Aberthasant hefyd ebyrth i'r ARGLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i'r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a'u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
22
Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i'r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
23
Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24
Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25
A'r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.
26
Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.
27
A'r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
28
Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29
Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,
30
Gyda'i holl frenhiniaeth ef, a'i gadernid, a'r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29