bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 10
John 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
1
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond sydd yn myned i fyny iddi o gyfeiriad arall, y mae hwnw yn lleidr ac ysbeiliwr:
2
ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy y drws, y mae yn fugail y defaid.
3
I'r hwn y mae y drws-geidwad yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef; ac y mae efe yn galw ei ddefaid, bob un wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
4
Ac wedi iddo droi allan yr oll o'i eiddo ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy, ac y mae y defaid yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais ef.
5
Eithr un dyeithr ni chanlynant o gwbl, eithr ffoant oddi wrtho, oblegyd nad adwaenant lais dyeithriaid.
6
Yr alegori hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; eithr hwy ni wybuant pa bethau oedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7
Am hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw Drws y defaid.
8
Pawb ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.
9
Myfi yw y Drws: os trwof fi yr ä neb i mewn, efe a fydd cadwedig, ac efe a ä i mewn ac a ä allan, ac a gaiff borfa.
10
Nid yw y lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: a myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent orlawnder:
11
Myfi yw y BUGAIL DA: y Bugail Da sydd yn gosod i lawr ei einioes dros y defaid.
12
Ond y gwas cyflog, ac heb fod yn fugail, eiddo yr hwn nid yw y defaid, sydd yn edrych ar y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi; a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio ac yn eu gwasgaru:
13
a hyn am mai gwas cyflog yw, ac nid yw yn ofalus am y defaid.
14
Myfi yw y Bugail Da; ac yr wyf yn adwaen fy eiddo, a'm heiddo sydd yn fy adwaen i
15
fel y mae y Tâd yn fy adwaen i, a minau yn adwaen y Tâd; a'm heinioes yr wyf yn ei gosod i lawr dros y defaid.
16
A defaid eraill sydd genyf, y rhai nid ydynt o'r gorlan hon: y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu harwain, a hwy a wrandawant ar fy llais, a hwy a ddeuant yn un Praidd, un Bugail.
17
O herwydd hyn y mae y Tâd yn fy ngharu i, am fy mod yn gosod i lawr fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn.
18
Ni ddygodd neb hi oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei gosod i lawr o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod i'w gosod i lawr, ac y mae genyf awdurdod i'w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais oddi wrth fy Nhâd.
19
Cyfododd ymraniad drachefn yn mhlith yr Iuddewon o herwydd yr ymadroddion hyn.
20
A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae yn ynfydu; paham yr ydych yn gwrando arno?
21
Eraill a ddywedasant, Y rhai hyn nid ydynt eiriau un cythreulig. A all cythraul agoryd llygaid deillion?
22
Ac yr oedd Gwyl y Cysegriad yn cymmeryd lle yn Jerusalem: y gauaf oedd hi.
23
A'r Iesu oedd yn rhodio yn y Deml yn Nghyntedd Solomon.
24
Gan hyny yr Iuddewon a'i hamgylchynasant ef, ac a ddywedasant wrtho, Hyd pa bryd yr wyt yn cythryblu ein henaid? Os tydi yw y Crist, dywed i ni heb gêl.
25
Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu: y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y rhai hyny sydd yn tystiolaethu am danaf fi.
26
Ond chwi nid ydych yn credu, oblegyd nad ydych o'm defaid i.
27
Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; ac yr wyf yn eu hadwaen hwynt, ac y maent yn fy nghanlyn i:
28
a minau wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfrgollant ddim yn dragywydd, ac ni chipia neb hwynt allan o'm llaw i.
29
Yr hyn y mae fy Nhâd wedi ei roddi i mi sydd fwy na phawb, ac nis gall neb gipio allan o law y Tâd.
30
MYFI A'R TAD, UN YDYM.
31
Yr Iuddewon a ddygasant geryg drachefn, fel y llabyddient ef.
32
Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth y Tâd: o achos pa fath weithred o honynt yr ydych yn fy llabyddio i?
33
Yr Iuddewon a atebasant iddo,, Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd; ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn gwneuthur dy hun yn Dduw.
34
Yr Iesu a atebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
35
Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth Gair Duw, — a'r Ysgrythyr nis gellir ei dad‐wneyd, —
36
a ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tâd, ac a anfonodd i'r byd, Yr wyt ti yn cablu, am i mi ddywedyd, Mab Duw wyf fi?
37
Os nad ydwyf yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhâd, na chredwch fi.
38
Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, ac os nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd: fel y deuwch i wybod ac y parhewch i wybod fod y Tâd ynof fi, a minau yn y Tâd.
39
Yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal ef: ac efe a aeth allan o'u llaw hwynt.
40
Ac efe a aeth ymaith drachefn tu hwnt i'r Iorddonen, i'r man lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio, ac a arosodd yno.
41
A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd; ond yr holl bethau o ba natur bynag a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
42
A llawer a gredasant ynddo ef yno.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21