bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 15
John 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
1
Myfi yw y Winwydden Wirioneddol, a fy Nhâd yw y Llafurwr.
2
Pob cangen ynof fi nad yw yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei chymmeryd ymaith; a phob un sydd yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thrwsio, fel y dygo fwy o ffrwyth.
3
Yr ydych chwi eisioes yn lân o herwydd y gair yr wyf fi wedi ei lefaru wrthych.
4
Aroswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megys na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi.
5
Myfi yw y Winwydden, chwi y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau, hwnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: canys ar wahan â mi nis gellwch wneuthur dim.
6
Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd tu allan, fel y gangen, ac a wywodd allan: ac y maent yn eu casglu hwynt ynghyd, ac yn eu bwrw i'r tân, ac y maent yn llosgi!
7
Os aroswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, ceisiwch beth bynag a ewyllysioch, ac efe a fydd i chwi.
8
Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, fel y dygoch ffrwyth lawer, ac y deuwch yn ddysgyblion i mi.
9
Fel y carodd y Tâd fi, minau hefyd a'ch cerais chwi. Aroswch yn fy nghariad fy hun.
10
Os cedwch fy Ngorchymynion, chwi a aroswch yn fy nghariad: megys yr wyf wedi cadw Gorchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
11
Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y byddai fy llawenydd fy hun ynoch, ac fel y gwnelid eich llawenydd yn gyflawn.
12
Hwn yw fy Ngorchymyn fy hun: Bod i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi.
13
Cariad mwy na hwn nid oes gan neb: Bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.
14
Chwi yw fy nghyfeillion os gwnewch y pethau yr wyf yn eu gorchymyn i chwi.
15
Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; canys y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond yr wyf fi wedi eich galw chwi yn gyfeillion; oblegyd pob peth a'r a glywais gan fy Nhâd a hysbysais i chwi.
16
Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch penodais chwi, fel yr eloch ymaith, ac y dygoch ffrwyth, ac yr erys eich ffrwyth: fel pa beth bynag a geisioch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
17
Y pethau hyn yr wyf yn eu gorchymyn i chwi: Bod i chwi garu eich gilydd.
18
Os yw y byd yn eich cashâu chwi, chwi a wyddoch ei fod wedi fy nghashâu i o'ch blaen chwi.
19
Pe byddech o'r byd, y byd a hoffai yr eiddo: ond oblegyd nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis chwi allan o'r byd, o achos hyn y mae y byd yn eich cashâu chwi.
20
Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais wrthych: Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
21
Eithr yr holl bethau hyn a wnant i chwi o herwydd fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.
22
Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.
23
Yr hwn sydd yn fy nghashâu i sydd yn cashâu fy Nhâd hefyd.
24
Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yn awr y maent wedi gweled ac a'm casasant i a'm Tâd hefyd.
25
Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddiachos.
26
Eithr pan ddêl y Dadleuydd, yr hwn a anfonaf fi i chwi oddi wrth y Tad, Yspryd y Gwirionedd, yr hwn sydd yn dyfod allan oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha am danaf fi:
27
ac yr ydych chwithau hefyd yn tystiolaethu, am eich bod o'r dechreuad gyd â mi.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21