bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 7
John 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
1
Ac ar ol y pethau hyn yr Iesu a rodiodd yn Galilea: canys nid oedd efe yn ewyllysio rhodio yn Judea, oblegyd bod yr Iuddewon yn ceisio ei ladd ef.
2
A Gŵyl yr Iuddewon, Gwyl y Pebyll, oedd yn agos.
3
Gan hyny ei Frodyr ef a ddywedasant wrtho, Symud oddi yma, a dos ymaith i Judea, fel hefyd y gwelo dy Ddysgyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.
4
Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yn ceisio i fod ei hun yn gyhoedd: os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.
5
Canys nid oedd hyd y nod ei Frodyr yn credu ynddo.
6
Dywed yr Iesu gan hyny wrthynt, Nid yw fy amser cyfaddas i eto yn bresenol: ond eich amser cyfaddas chwi sydd yn wastad yn barod.
7
Ni ddichon y byd eich cashâu chwi; ond myfi y mae yn ei gashâu, oblegyd fy mod i yn tystiolaethu am dano, fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.
8
Ewch chwi i fyny i'r Wyl: nid wyf fi yn myned i fyny i'r Wyl hon, oblegyd nid yw fy amser cyfaddas i wedi ei gyflawnu eto.
9
Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arosodd yn Galilea.
10
Ond pan yr aeth ei Frodyr ef i fyny i'r Wyl, yna efe ei hun hefyd a aeth i fyny, nid yn amlwg, ond megys yn ddirgelaidd.
11
Yr Iuddewon gan hyny oeddynt yn ei geisio ef yn yr Wyl, ac yn dywedyd, Pa le y mae efe?
12
A grwgnach lawer oedd am dano ef yn mysg y torfeydd: rhai a ddywedent, Gwr da yw: ond eraill a ddywedent, Na, eithr cam‐arwain y dyrfa y mae.
13
Er hyny, nid oedd neb yn llefaru yn agored am dano ef o achos ofn yr Iuddewon.
14
Ond pan yr oedd weithian ganol yr Wyl, yr Iesu a aeth i fyny i'r Deml, ac a ddysgodd.
15
A'r Iuddewon gan hyny oeddynt yn rhyfeddu, gan ddywedyd, Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb fod wedi dysgu?
16
Yr Iesu gan hyny a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysgeidiaeth i nid eiddof fi ydyw, ond eiddo yr hwn a'm hanfonodd i.
17
Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a ddaw i wybod am y ddysgeidiaeth, pa un ai o Dduw y mae, ai fy mod i yn llefaru o honof fy hun.
18
Yr hwn sydd yn llefaru o hono ei hun sydd yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd ef, hwnw sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo.
19
Oni roddodd Moses i chwi y Gyfraith? Ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith: paham yr ydych yn ceisio fy lladd i?
20
Y dorf a atebodd, y mae genyt ti gythraul: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?
21
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o herwydd hyn.
22
Moses sydd wedi rhoddi i chwi yr Enwaediad nid am ei fod o Moses, ond o'r Tadau ac ar ddydd Sabbath chwi a enwaedwch ddyn.
23
Os yw dyn yn derbyn enwaediad ar ddydd Sabbath, fel na thorer Cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthyf fi, am i mi wneuthur dyn cyfan yn iach ar ddydd Sabbath?
24
Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch y farn gyfiawn.
25
Dywedodd gan hyny rai o'r Jerusalemiaid, Onid hwn yw yr un y maent hwy yn ceisio ei ladd?
26
Ac wele y mae yn llefaru yn eofn, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef! A ddaeth y Llywodraethwyr erioed i wybod mewn gwirionedd mai hwn yw y Crist?
27
Eithr yr ydym ni yn adwaen hwn o ba le y mae: eithr y Crist, pan y mae yn dyfod, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae.
28
Yr Iesu gan hyny a lefodd allan yn y Deml, gan ddysgu a dywedyd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wyddoch o ba le yr ydwyf fi: eto, nid ydwyf wedi dyfod o honof fy hun, ond yr hwn a'm hanfonodd i sydd yn un gwirioneddol, yr hwn nid adwaenoch chwi.
29
Myfi a'i hadwaen ef, canys oddi wrtho ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i.
30
Am hyny yr oeddynt yn ceisio ei ddal ef; eto, ni osododd neb law arno ef, canys nid oedd ei Awr ef eto wedi dyfod.
31
Ond o'r dyrfa llawer a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo y Crist, a wna efe fwy o arwyddion na'r rhai a wnaeth hwn?
32
Y Phariseaid a glywsant y dyrfa yn sibrwd y pethau hyn am dano; a'r Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a anfonasant is‐swyddogion, fel y dalient ef.
33
Am hyny y dywedodd yr Iesu, Yr ydwyf fi ychydig amser eto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned ymaith at yr hwn a'm hanfonodd.
34
Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyf fi, ni ellwch chwi ddyfod.
35
Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, I ba le y mae hwn a'r fedr myned, fel na chaffom ni ef? Ai at y rhai sydd ar wasgar yn mhlith y Groegiaid y mae ar fedr myned, a dysgu y Groegiaid?
36
Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr wyf fi, ni ellwch ddyfod?
37
Ac ar y dydd diweddaf, dydd mawr yr Wyl, yr Iesu a safodd i fyny, ac a lefodd allan, gan ddywedyd, Os sycheda neb, deued ataf fi, ac yfed.
38
Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megys y dywedodd yr Ysgrythyr, Afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i ymysgaroedd:.
39
Hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn yr oedd y rhai a gredent ynddo ef ar fedr ei dderbyn canys hyd yn hyn nid oedd Yspryd Glân [wedi ei roddi;] canys yr Iesu ni ogoneddasid eto.
40
Rhai o'r dyrfa gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddywedasant, Hwn yn wir yw y Proffwyd
41
Eraill a ddywedasant, Hwn yw y Crist Ond rhai a ddywedasant, Beth! A ydyw y Crist yn dyfod allan o Galilea?
42
Ai ni ddywedodd yr Ysgrythyr, mai o hâd Dafydd o Bethlehem y dref lle y bu Dafydd, y mae y Crist yn dyfod?
43
Am hyny dygwyddodd ymraniad yn mhlith y dyrfa o'i achos ef.
44
A rhai o honynt a fynasent ei ddal ef: ond ni roddodd neb ddwylaw arno ef.
45
Daeth yr is‐swyddogion gan hyny at yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid; a'r rhai hyny a ddywedasant wrthynt hwy, Paham na ddygasoch chwi ef?
46
Yr is‐swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel hyn.
47
Y Phariseaid gan hyny a atebasant iddynt, A ydych chwithau hefyd wedi eich arwain ar gyfeiliorn?
48
A gredodd neb o'r Llywodraethwyr ynddo ef, neu o'r Phariseaid?
49
Eithr y dyrfa hon nad yw yn gwybod y Gyfraith, melldigedig ydynt.
50
Y mae Nicodemus yn dywedyd wrthynt hwy, (yr hwn a ddaeth ato ef o'r blaen, ac oedd un o honynt),
51
A ydyw ein Cyfraith ni yn barnu y dyn, oddi eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwybod pa beth y mae yn ei wneyd?
52
Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o Galilea? Chwilia a gwel, nad oes un proffwyd yn cyfod o Galileia.
53
[A hwy a aethant bob un i'w dy ei hun.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21