bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 2
John 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
1
A'r trydydd dydd yr oedd priodas‐wledd yn Cana yn Galilea: ac yr oedd mam yr Iesu yno.
2
A galwyd yr Iesu hefyd a'i Ddysgyblion i'r briodas‐wledd.
3
A phan ballodd gwin, y mae mam yr Iesu yn dywedyd wrtho ef, Nid oes ganddynt win.
4
Y mae yr Iesu yn dywedyd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O wraig? Ni ddaeth fy Awr i eto.
5
Y mae ei fam yn dywedyd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
6
Ac yr oedd yno chwech o ddyfr‐lestri meini, wedi eu gosod yn ol arfer puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddalient ddau neu dri bath yr un.
7
Ac y mae yr Iesu yn dywedyd wrthynt, Llenwch y dyfr‐lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.
8
Ac y mae efe yn dywedyd wrthynt, Tynwch allan a dygwch i lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
9
Ond pan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr sydd wedi dyfod yn win, ac ni wyddai o ba le y mae, (eithr y gwasanaethwyr a wyddent, y rhai oeddynt wedi tynu y dwfr) y mae llywodraethwr y wledd yn galw y priod‐fab, ac yn dywedyd wrtho,
10
Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; a phan wedi yfed yn drwm, yna yr hyn sydd waeth: ti ydwyt wedi cadw y gwin da hyd yr awr hon.
11
Hyn o ddechreu yr arwyddion a wnaeth Iesu yn Cana yn Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant, a'i Ddysgyblion a gredasant arno ef.
12
Wedi hyn efe a aeth i waered i Capernaum, efe, a'i Fam, a'i Frodyr, a'i Ddysgyblion: ac yno nid arosasant nemawr o ddyddiau.
13
A Phasc yr Iuddewon oedd yn agos, a'r Iesu a aeth i fyny i Jerusalem.
14
Ac efe a gafodd yn y Deml y rhai oedd yn gwerthu ychain a defaid, a cholomenod, a'r cyfnewidwyr arian yn eistedd.
15
Ac wedi gwneuthur fflangell o fân-reffynau, efe a fwriodd allan oll o'r Deml, y defaid hefyd a'r ychain; ac a dywalltodd allan arian y cyfnewidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau;
16
ac wrth y rhai oedd yn gwerthu y colomenod y dywedodd, Dygwch ymaith y rhai hyn oddiyma: na wnewch Dŷ fy Nhâd yn dŷ marchnad.
17
Ei Ddysgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Zêl dy dŷ di a'm llwyr‐ysa i.
18
Yr Iuddewon gan hyny a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?
19
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Tynwch i lawr y Cysegr hwn, ac mewn tridiau y cyfodaf ef.
20
Yr Iuddewon gan hyny a ddywedasant, Yn yspaid chwe blynedd a deugain yr adeiladwyd y Cysegr hwn; ac a gyfodi di ef mewn tridiau?
21
Ond efe a ddywedasai am Gysegr ei gorff.
22
Pan gan hyny y cyfodwyd ef o feirw, ei Ddysgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn; a hwy a gredasant yr Ysgrythyr, a'r gair a ddywedasai yr Iesu.
23
Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem ar y Pasc yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe.
24
Ond yr Iesu ei hun nid ymddiriedodd ei hun iddynt, o herwydd yr adwaenai efe bawb;
25
ac nad oedd raid iddo i neb dystiolaethu am ddyn; canys yr oedd efe ei hun yn gwybod pa beth oedd mewn dyn.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21