bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
John 3
John 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 4 →
1
Yn awr yr oedd dyn o'r Phariseaid, a'i enw Nicodemus, penaeth yr Iuddewon:
2
hwn a ddaeth ato ef yn y nos, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai Athraw ydwyt wedi dyfod allan oddiwrth Dduw: canys ni all neb wneuthur yr arwyddion hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef.
3
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o'r newydd, ni ddichon efe weled Teyrnas Dduw.
4
Y mae Nicodemus yn dywedyd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni, ac efe yn hen ddyn? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith a'i eni?
5
Iesu a atebodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dyn o ddwfr a'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw.
6
Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd sydd gnawd, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Yspryd sydd yspryd.
7
Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae yn rhaid eich geni chwi o'r newydd.
8
Y mae yr Yspryd yn anadlu lle yr ewyllysio, a thi a glywi ei lais ef, ond nid ydwyt yn gwybod o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: yr un modd y mae pob un sydd wedi ei eni o'r Yspryd.
9
Nicodemus a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fod?
10
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho. A wyt ti yn Athraw i Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?
11
Yn wir, yn wir, meddaf i ti, yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn yr ydym wedi ei weled yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
12
Os dywedais i chwi y pethau a wneir ar y ddaear, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi y pethau a wneir yn y Nefoedd, y credwch?
13
Ac nid oes neb wedi esgyn i'r Nef, ond yr hwn a ddisgynodd allan o'r Nef, Mab y Dyn, [yr hwn sydd yn y Nef ].
14
Ac megys y dyrchafodd Moses y Sarff yn y Diffaethwch, felly y mae yn rhaid dyrchafu Mab y Dyn:
15
fel y caffo pwy bynag a gredo ynddo ef fywyd tragywyddol.
16
Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei Unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol.
17
Canys ni ddanfonodd Duw y Mab i'r byd, i farnu y byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18
Nid yw yr hwn sydd yn credu ynddo ef yn cael ei farnu: eithr yr hwn nid yw yn credu sydd wedi ei farnu eisioes, o herwydd nad ydyw wedi credu yn enw Unig‐anedig Fab Duw.
19
A hon yw y farnedigaeth: Y mae y Goleuni wedi dyfod i'r byd, a dynion a garasant y Tywyllwch yn hytrach na'r Goleuni; canys eu gweithredoedd oeddynt ddrwg.
20
Canys pob un a'r sydd yn ymarfer pethau iselwael sydd yn cashâu y Goleuni, ac nid yw yn dyfod at y Goleuni, fel na ddygid ei weithredoedd i brawf.
21
Ond yr hwn sydd yn gwneuthur y gwirionedd sydd yn dyfod i'r Goleuni, fel yr eglurhâer ei weithredoedd ef, canys yn Nuw y maent wedi eu gweithio allan.
22
Wedi y pethau hyn, daeth yr Iesu a'i Ddysgyblion i wlad Judea; ac yno yr arosodd efe gyd â hwynt, ac a fedyddiodd.
23
Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno; a hwy a ddaethant ac a fedyddiwyd.
24
Canys nid oedd Ioan eto wedi ei fwrw i'r carchar.
25
Cyfododd gan hyny ddadl o ran Dysgyblion Ioan âg Iuddew ynghylch puredigaeth.
26
A daethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r hwn yr wyt ti wedi tystiolaethu, wele, y mae hwn yn bedyddio, a phawb yn dyfod ato ef.
27
Ioan a atebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dyn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r Nef.
28
Chwychwi eich hunain ydych yn tystiolaethu i mi ddywedyd, Nid myfi yw y Crist, eithr fy mod i wedi fy anfon o'i flaen ef.
29
Yr hwn sydd ganddo y briod‐ferch yw y priod‐fab: ond cyfaill y priod‐fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr o herwydd llais y priod‐fab: fy llawenydd hwn gan hyny sydd wedi ei gyflawnu.
30
Rhaid iddo ef gynyddu, ond i mi leihâu.
31
Yr hwn sydd yn dyfod oddi uchod sydd goruwch pawb: yr hwn sydd o'r ddaear sydd o'r ddaear, ac o'r ddaear y mae yn llefaru; yr hwn sydd yn dyfod o'r Nef sydd goruwch pawb.
32
Yr hyn y mae efe wedi ei weled ac a glywodd, hyn y mae efe yn ei dystiolaethu, a'i dystiolaeth ef nid oes neb yn ei derbyn.
33
Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef a seliodd fod Duw yn wir.
34
Canys yr hwn a anfonodd Duw, geiriau Duw y mae yn eu llefaru; oblegyd nid wrth fesur y mae efe yn rhoddi yr Yspryd.
35
Y mae y Tâd yn caru y Mab, ac wedi rhoddi pob peth yn ei law ef.
36
Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragywyddol: ond yr hwn sydd yn anufyddhâu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21